LLE 129 Hindenburg
Enghraifft o'r canlynol | rigid airship |
---|---|
Daeth i ben | 6 Mai 1937 |
Perchennog | Deutsche Zeppelin-Reederei |
Gwneuthurwr | Luftschiffbau Zeppelin |
Hyd | 245 metr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llong awyr Almaenig oedd yr LZ 129 Hindenburg (Almaeneg: Deutsches Luftschiff Zeppelin #129; Rhif cofrestru: D-LZ 129). Roedd yn 247 metr; hyd tair Boeing 747 a 40 metr o ran diamedr.
Hon oedd prif long awyr y cwmni, y fwyaf i hedfan erioed o ran cyfaint. Hedfanodd o Fawrth 1936 tan iddi fynd ar dân ar 6 Mai 1937 ar ddiwedd ei thaith traws-Iwerydd. Bu farw 36 o bobl yn y ddamwain wrth iddi lanio yn y Lakehurst Naval Air Station yn New Jersey.
Fe'i cynlluniwyd i ddefnyddio nwy heliwm i'w lenwi a'i godi, gan ei fod yn saffach na heidrogen ond roedd heliwm yn llawer iawn drytach i'w greu yn yr Almaen. Ychydig cyn gorffen ei hadeiladu fe newidiwyd y tanwydd ac aethpwyd am heidrogen.
Llong awyr fasnachol oedd hon a oedd yn cael ei rheoli gan gwmni 'Deutsche Zeppelin Reederei GmBH' (DZR) a sefydlwyd ym Mawrth 1935 gan Hermann Göring er mwyn cynyddu dylanwad y Natsiaid dros y zeppelin.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Ernest Thompson Willows Un o ddyfeiswyr y balwn aer cynnes
- Charles Stewart Rolls Y Cymro a sefydlodd y cwmni Rolls Royce
- Y balwn aer cynnes
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Deutsche Zeppelin-Reederei (DZR)" Airships.net