Ysguthan
Ysguthan | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Columbiformes |
Teulu: | Columbidae |
Genws: | Columba |
Rhywogaeth: | C. palumbus |
Enw deuenwol | |
Columba palumbus Linnaeus, 1758 |
Mae'r ysguthan (ll. Ysguthanod; Lladin: Columba palumbus) yn aelod o deulu'r colomennod (y Columbidae). Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia. Yn y rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer, megis gogledd a dwyrain Ewrop, mae'r sguthan, fel y'i gelwir ar lafar, yn aderyn mudol, yn symud tua'r de neu tua'r gorllewin. Yng ngorllewin a de Ewrop mae'n aros trwy'r flwyddyn.
Mae'r sguthan yn aderyn mwy na'r aelodau eraill o deulu'r colomennod sy'n gyffredin yn Ewrop, er enghraifft y Golomen wyllt, sydd tua 41 cm o hyd. Gellir ei hadnabod hefyd wrth y darn mawr gwyn ar y gwegil a'r plu gwyn ar yr adenydd. Mae'r gweddill o'r plu yn llwyd.
Mae'n nythu mewn coed, yn dodwy dau wy gwyn. Tu allan i'r tymor nythu mae'n ymgasglu yn heidiau, weithiau gannoedd neu hyd yn oed filoedd gyda'i gilydd. Mae eu bwyd yn wahanol fathau o blanhigion, yn enwedig grawn ac egin ieuanc, ac oherwydd hyn maent yn aml yn cael eu saethu gan ffermwyr.
Ffeithiau diddorol
[golygu | golygu cod]Mae'r adar ifanc fel arfer yn hedfan ar ôl 33-34 diwrnod ac mae'r gynffon yn mesur tua 13.8 i 15 cm. [Llysieuyn|Llysiau]] yw rhan fwyaf o'u deiat.