Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Enghraifft o'r canlynol | swydd |
---|---|
Math | Ysgrifennydd Gwladol |
Rhan o | Cabinet y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 18 Hydref 1964 |
Deiliad presennol | David T. C. Davies |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.walesoffice.gov.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres: |
Cymru o fewn y DU
Cymru o fewn yr UE
Gweithgarwch gwleidyddol
|
|
Daeth swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fodolaeth ym mis Hydref 1964, a Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli oedd y cyntaf i'w llenwi. Penderfynodd llywodraeth San Steffan alluogi'r Ysgrifennydd i reoli gwariant ar ambell wasanaeth cyhoeddus a fu gynt o dan reolaeth adrannau eraill. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Ebrill 1965.
Yn ystod y 1980au a'r 1990au llywodraeth Geidwadol oedd mewn grym yn San Steffan. O 1987 tan 1997 roedd yr ysgrifenyddion i gyd yn cynrychioli seddau o tu allan i Gymru oherwydd diffyg cynrychiolaeth y Toriaid yng Nghymru - 1987 - 8 aelod, ac 1992 - 6 aelod.
Yn dilyn sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth newid mawr yn rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, gan fod y rhan fwyaf o'i swyddogaethau bellach yn nwylo'r corff newydd. Diddymwyd y Swyddfa Gymreig, ond cadwyd swydd yr ysgrifennydd gwladol, gan ei wneud yn bennaeth ar swyddfa newydd, Swyddfa Cymru.
O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru fynychu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a siarad ynddynt yn ogystal â chael arian o'r Senedd. Fodd bynnag, mae'n gorfod trosglwyddo hynny i'r Cynlliad Cenedlaethol, heblaw am yr arian sydd yn angenrheidiol i redeg ei swyddfa ei hun. Mae'n rhaid iddo ymgynghori â'r Cynulliad dros raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hefyd.
Dalwyr y swydd
[golygu | golygu cod]Cafwyd 18 Ysgrifennydd Gwladol, gyda 3 ohonynt (David Hunt, Paul Murphy a Peter Hain) wedi eu penodi i'r swydd ar fwy nag un achlysur. Mae pedwar ohonynt, sef yr Arglwydd Morris o Aberafan (John Morris), Nicholas Edwards, Barwn Crughywel, Ron Davies, a’r Barwn Cledwyn o Benrhos (Cledwyn Hughes) wedi traddodi darlith flynyddol Archif Wleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Peter Thomas, y Ceidwadwr cyntaf yn y swydd, oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i gynrychioli sedd y tu allan i Gymru.[1]
Mae nifer o Ysgrifenyddion Gwladol hefyd wedi dal swyddi dylanwadol eraill: daeth Is-iarll Tonypandy (George Thomas) yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, daeth William Hague yn Arweinydd y Ceidwadwyr a daeth Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Nodiadau
[golygu | golygu cod]1 AS yn flaenorol dros Sir Benfro, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.
2 AS yn flaenorol dros Gonwy, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.
3 Ymddiswyddodd Redwood i sefyll yn etholiad arweinydd y Ceidwadwyr yn 1995. Yn ystod yr etholiad, gweithredodd Hunt fel y Ysgrifennydd Gwladol.
4 Ymddiswyddodd ar ôl "moment o wallgofrwydd" ar Clapham Common.
5 Yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, daliodd y swydd fel Prif Weinidog cyntaf cymru o 12 Mai 1999.
6 Ymddiswyddodd yn dilyn ffrae dros yr hyn oedd yn ei wybod am ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys.
Dileu'r swydd
[golygu | golygu cod]Mae dyfodol y swydd wedi cael ei gwestiynu nifer o weithiau ers dyfodiad datganoli. Galwyd am ddileu’r swydd gan 'Uned y Cyfansoddiad' yn 2001, a gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Yn ei ddarlith yn 2013, galwodd yr Arglwyd Morris am ddileu’r swydd gan fod y rhan fwyaf o’r dyletswyddau wedi cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad gan ddweud. Dywedodd:
“ | Y pumed olwyn yn y goets seneddol ydyw bodolaeth Ysgrifennydd Gwladol yn yr Alban a Chymru. Mae dau is-weinidog yn Swyddfa Cymru, un yn Nhŷ’r Cyffredin ac un newydd sbon am y tro cyntaf erioed yn Nhŷ’r Arglwyddi. Beth yn y byd y maent yn ei wneud o ddydd i ddydd, Duw a ŵyr!” | ” |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 9 Awst 2015