Neidio i'r cynnwys

Ysgol Efyrnwy Llanwddyn

Oddi ar Wicipedia

Ysgol gynradd dwy-ieithog ym mhentref Llanwddyn, Powys ydy Ysgol Efyrnwy Llanwddyn. Roedd 16 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ym mis Medi 2006. Er mai ond 40% oedd yn dod o gartrefi Cymraeg, roedd 90% yn medru'r iaith.[1]

Mae gan yr ysgol foiler sy'n llosgi coed ac yn gwresogi ac yn cyflenwi dŵr poeth, nid yn unig ar gyfer yr ysgol, ond ar gyfer cartrefi cyfagos hefyd.[1]

Mae'r cyngor yn argymell cau'r ysgol ym mis Awst 2008.[2]

Mae Iolo Williams yn gyn-ddisgybl yr ysgol.

Dolenni Allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.