Neidio i'r cynnwys

Ynys Bananal

Oddi ar Wicipedia
Ynys Bananal
Mathynys mewn afon, ynys, treftadaeth naturiol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTocantins Edit this on Wikidata
GwladBaner Brasil Brasil
Arwynebedd19,162 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr189 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Araguaia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau11.33°S 50.42°W, 11.3561°S 50.2356°W Edit this on Wikidata
Hyd350 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion

Ynys yn nhalaith Tocantins, Brasil, yw Ynys Bananal, hefyd Ynys Bookash. Fe'i ffurfir gan afonydd Araguaia a Javaés. Gydag arwynebedd o tua ugain mil km², hi yw ynys afon fwyaf y byd.

Saif yn agos i'r ffin â thaleithiau Goiás, Mato Grosso a Pará. Yng ngogledd yr ynys, ceir Parc Cenedlaethol Araguaia, ac yn y de warchodfeydd brodorol (terra indígena) Carajás a Javaés. Cyrhaeddodd yr Ewropeaud cyntaf, dan José Pinto Fonseca, yma yn 1773, a rhoi'r enw Santana ar yr ynys. Ceir tua pymtheg pentref brodorol ar yr ynys.