Tali Sharon
Tali Sharon | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1979 Hod HaSharon |
Dinasyddiaeth | Israel |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan |
Actores deledu, theatr a ffilm o Israel yw Tali Sharon (Hebraeg טלי שרון) (ganwyd 13 Chwefror 1979). Fe'i ganed a maged yn Hod HaSharon, tref i'r gogledd o Tel Aviv. Ystyr enw'r dref yw "Gogoniant [gwastatir] y Sharon".
Rhannau
[golygu | golygu cod]Bydd yn fwyaf adnabyddus ym Mhrydain am ei rhan fel Hodaya yn y gyfres Israeli Srugim [1] sy'n ymddangos ar sianel Amazon Prime.[2] Mae'r ddrama tair gyfres am fywyd a helbulon griw o ffrindiau Iddewig uniongred sy'n ceisio canfod cariad a phartner oes. Mae ei rhan yn ferch i rabbi sy'n raddol colli ei ffydd ac yn chwilio am gariad.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Behind the Sun (2003) - rhan Namma.[3] Yn Hebraeg.
- In Therapy (2005) - ffilm am seicotherapydd a'i gleifion a'i hun.[4] Yn Hebraeg.
- Three Mothers - tair chwaer, triplets a ganwyd yn yr Aifft sydd bellach yn ei 60au ac yn byw yn Israel. Yn Hebraeg.[5]
- Out of Sight (2006) - cyf. Daniel Syrkin. Mae'n chwarae rhan Ya'ara, y prif gymeriad dall.[6]
- She Is Coming Home (2013) - rhan Michal, cyfarwyddwraig di-waith sy'n cwympo mewn cariad gyda dyn hŷn.[7] Herbaeg
- Harmonia (2016) ffilm am berthynas anghymarus rhwng cerddor Palesteinaidd a dynes Iddewig, Sarah (Sharon) yn Jeriwsalem, yn seiliedig yn fras ar hanes Genesis [8] Yn Hebraeg ac Arabeg
Personol
[golygu | golygu cod]Gwasanaethodd fel parafeddyg yn y fyddin yn ystod ei chyfnod gwasanaeth cenedlaethol.[9] Priododd â actor Assaf Salomon yn 2012 ac mae ganddynt dair o ferched. Ganed ei merch gyntaf yn 2010 cyn iddynt briodi.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://slate.com/culture/2014/06/israeli-tv-series-srugim-reviewed.html
- ↑ https://www.amazon.com/Srugim/dp/B00DTP198A
- ↑ https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/9739324-things-behind-the-sun[dolen farw]
- ↑ https://www.imdb.com/title/tt0466345/?ref_=nmbio_mbio
- ↑ https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/1409495-three-mothers[dolen farw]
- ↑ https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/756602-out-of-sight[dolen farw]
- ↑ https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/1066375-she-is-coming-home[dolen farw]
- ↑ https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/375456-harmonia[dolen farw]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-08. Cyrchwyd 2018-12-17.
- ↑ https://www.ynet.co.il/articles/0,7340,L-3989498,00.html
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tali Sharon ar wefan Internet Movie Database