Rhostir Lüneburg
Gwedd
Math | tirlun |
---|---|
Enwyd ar ôl | Lüneburg, rhostir |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | North German Geest |
Sir | Harburg, Heidekreis, Lüneburg, Celle, Ardal Uelzen, Gifhorn |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 6,972 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Stade Geest, Elbe Marshes, Q23647569, Wendland and Altmark, Weser-Aller Plains and Geest, Q23647497 |
Cyfesurynnau | 53.1686°N 9.9397°E |
Ardal fawr o rostir a choetir yn rhan ogledd-ddwyreiniol talaith Niedersachsen yng ngogledd yr Almaen yw Rhostir Lüneburg (Almaeneg: Lüneburger Heide). Mae'n rhan o gefnwlad dinasoedd Hamburg, Hannover a Wolfsburg. Fe'i henwir ar ôl tref Lüneburg. Gwarchodfa natur yw'r rhan fwyaf o'r ardal.[1]
Ar un cyfnod roedd y math hwn o rostir yn gyffredin yng ngogledd yr Almaen ond mae bron wedi diflannu mewn mannau eraill. Cedwir y gweundir yn glir yn bennaf trwy bori, yn enwedig gan frid o ddefaid o'r enw Heidschnucke. Oherwydd ei dirwedd unigryw, mae Rhostir Lüneburg yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Golygfa nodweddiadol o'r rhostir ger Schneverdingen
-
Pietzmoor, mawnog ger Schneverdingen
-
Totengrund, dyffryn rhewlifol
-
Diadell o ddefaid Heidschnucke
-
Carneddau ar y rhostir
-
Llwyn pinwydd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Heinz Ellenberg: Vegetation Mitteleuropas mit den Alpen in ökologischer, dynamischer und historischer Sicht, Stuttgart 1996, p. 721