Robin Hwd
Herwr chwedlonol yn llên gwerin Lloegr yw Robin Hwd[1][2] (Saesneg: Robin Hood). Mae'n destun nifer o faledi sy'n dyddio ers y 14g. Mae Robin a'i griw, ei "Lanciau Llon",[3] yn dwyn oddi ar y cyfoethog a'r pwerus er budd y tlawd. Mewn nifer o'r straeon, Marian Forwyn[4] yw ei gariad. Yn draddodiadol mae Robin Hwd a'i griw yn gwisgo dillad o liw gwyrdd Lincoln. Cysylltir y chwedl yn bennaf ag ardal Swydd Nottingham a Swydd Lincoln, yn enwedig Coedwig Sherwood, er roedd baledi cynnar wedi eu lleoli yn ne Swydd Efrog.[5] Mae dyddiadau honedig y straeon yn amrywio o deyrnasiad Rhisiart I (1189–99) i oes Edward II (1307–27).[6]
Ceir sôn am Robin mewn nifer o ffynonellau ar draws Prydain, gan gynnwys The Vision of Piers Plowman (1377) gan William Langland, The Orygynale Cronykil of Scotland gan Andrew Wyntoun (tua 1420),[6] a chasgliad o ganeuon Cymraeg o'r 15g (llsgr. Peniarth 53).[2] Cyhoeddodd Wynkyn de Worde y casgliad cyntaf o faledi amdano tua 1489. Mae'n bosib yr oedd y chwedl yn seiliedig ar herwr go iawn o'r un enw. Yn ôl tybiaeth arall roedd y Robin Hwd go iawn yn Robert Fitzooth, Iarll Huntingdon.[6] Roedd Robin yn amddiffyn y tlawd ac yn twyllo a lladd y cyfoethog a swyddogion llwgr a digydwybod yr eglwys a'r llywodraeth. Mae'r elfen hon o'i chwedl yn adlewyrchu'r anfodlonrwydd ymysg y bobl gyffredin a arweiniodd at Wrthryfel y Werin ym 1381.[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1179 [Robin: Robin Hood].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Singman, Jeffrey L. (1998). Robin Hood: The Shaping of the Legend. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2013.
- ↑ Geiriadur yr Academi, t. 882 [merry: Robin Hood and his merry men].
- ↑ Geiriadur yr Academi, t. 853 [maid: Maid Marian].
- ↑ (Saesneg) Robin Hood. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Rhagfyr 2013.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 1129.
- ↑ Crystal, David (gol.). The Penguin Encyclopedia' (Llundain, Penguin, 2004), t. 1309.