Roy Lichtenstein
Roy Lichtenstein | |
---|---|
Ffugenw | Lichtenstein, Roy |
Ganwyd | 27 Hydref 1923 Efrog Newydd, Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 15 Medi 1997, 29 Medi 1997 Manhattan, Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, academydd, cynllunydd llwyfan, lithograffydd, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gwneuthurwr printiau, arlunydd graffig, drafftsmon, artist, arlunydd |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Girl with Ball, Girl with Hair Ribbon, Takka Takka, Look Mickey, Blam, Engagement Ring, Ten Dollar Bill, Electric Cord, I Can See the Whole Room...and There's Nobody in It!, Times Square Mural |
Arddull | bywyd llonydd |
Mudiad | celf bop |
Priod | Dorothy Lichtenstein, Isabel Sarisky |
Plant | Mitchell Lichtenstein, David Lichtenstein |
Gwobr/au | Gwobr Rhufain, Gwobr Kyoto yn y Celfyddydau ac Athroniaeth, Y Medal Celf Cenedlaethol |
Roedd Roy Fox Lichtenstein (27 Hydref 1923 – 29 Medi 1997) yn arlunydd Americanaidd. Yn y 1960au, gydag Andy Warhol, Jasper Johns, a James Rosenquist, fe ddaeth yn un o brif enwau'r mudiad celfyddyd bop.[1] Wrth ddefnyddio stribed comig a’r byd hysbysebu fel ysbrydoliaeth, roedd ei waith yn finiog a manwl, yn ddogfennu y gymdeithas o'i amgylch gyda hiwmor, parodi ac eironi.[2][3]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Efrog Newydd i deulu Iddewig dosbarth canol, roedd ei dad yn werthwr tai.[4] Raddiodd o Brifysgol Ohio ym 1949, roedd ei waith cyntaf yn arddull Mynegiadaeth haniaethol (Abstract expressionism) yn un o'r mudiadau celfyddydol mwyaf ddylanwadol yn yr Unol Daleithiau ar y pryd gydag enwogrwydd artistiaid fel Jackson Pollock a Mark Rothko.[4]
Ar ddiwedd y 1950au fe ddechreuodd arbrofi gyda delweddau oddi ar bapur lapio gwm cnoi a delweddau cowbois y Gorllewin Gwyllt gan yr arlunydd Frederic Remington.
Celfyddyd bop
[golygu | golygu cod]O 1961 ymlaen, fe ganolbwyntiodd ar gynhyrchu darluniau yn seiliedig ar gartwnau, stribedi comig a hysbysebion poblogaidd – a alwyd ymhen amser yn gelfyddyd bop. Fe chwyddodd y delweddau i lenwi cynfasau mawrion gan beintio amlinellau du gydag ochrau miniog a’u llenwi gyda lliwiau llachar. Un o nodweddion Lichtenstein oedd ei ddefnydd o ddotiau mawr i gyfleu'r broses argraffu 'hanner tôn', ond pob un wedi'i beintio â llaw gyda chymorth stensil.
Ym 1961 arddangoswyd ei waith yn oriel enwog Leo Castelli, Efrog Newydd ac fe ddaeth Lichtenstein i sylw'r byd celf. Y flwyddyn ganlynol fe gynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf i artist unigol yn yr oriel ac fe werthwyd pob un darlun cyn yr agoriad.[4] Pan arddangoswyd yn gyntaf, fe heriodd rhai beirniad wreiddioldeb waith Lichtenstein, gan ddweud ei fod yn 'di-chwaeth' ac yn 'wag'. Gofynnodd bennawd mewn un erthygl yng nghylchgrawn Life os oes Lichtenstein yr 'arlunydd gwaethaf yn America?'[5]
Ar 15 Mai 2013 fe werthwyd Woman with flowered hat yn Christie's Efrog Newydd am $56.1 miliwn.[6] Un o ddarluniau enwocaf Lichtenstein yw Whaam!, 1963 sydd heddiw i weld yn Oriel y Tate Modern yn Llundain. Mae'r darlun steil cartŵn yn dangos awyren rhyfel yn saethu roced tuag at awyren arall, gyda ffrwydrad coch a melyn a'r geiriau "Whaam!". Mae bocs gyda'r geiriau "I pressed the fire control... and ahead of me rockets blazed through the sky...". Mae'r llun yn 'triptych' (dros dri chynfas), 1.7 x 4.0 m.
Dechreuodd Lichtenstein arbrofi gyda cherfluniau yn tua 1964 gan gyd weithio gyda cheramigwr mae cerfluniau mawr ganddo i'w weld yng nghanol sawl dinas yn cynnwys Barcelona.[7] Nes ymlaen yn y 60au symudodd i ffwrdd o waith yn seiliedig ar stribedi cartwn yn cynhyrchu cyfres yn barodïau o waith meistri fel Cézanne, Mondrian, Vincent van Gogh a Picasso cyn cyfres o strôc frwsh cartwnaidd.[8]
-
Twr Crysta-nagahori, Amerikamura, Japan, 2006
-
Cerflun Roy Lichtenstein, Barcelona
-
Lichtenstein o dan Times Square, Efrog Newydd
Enwogrwydd a dylanwad
[golygu | golygu cod]Mae dylanwad ei waith i’w weld yn eang ar ddylunio graffeg a hysbysebion cyfoes, gyda chopiau o'i steil yn ymddangos trwy'r byd ar gyrsiau T ffasiynol a chloriau recordiau. Cydnabyddir Whaam! a Drowning Girl fel gwaith mwyaf adnabyddus Lichtenstein,[9][10][11] gyda Oh, Jeff...I Love You, Too...But... yn drydydd.[12] Ystyrir Drowning Girl, Whaam! a Look Mickey ei waith mwyaf dylanwadol.[13]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Arnason, H., History of Modern Art: Painting, Sculpture, Architecture, New York: Harry N. Abrams, Inc. 1968.
- ↑ Coplans 1972, Interviews, pp. 55, 30, 31
- ↑ (Saesneg) Obituary: Roy Lichtenstein. The Daily Telegraph (1 Hydref 1997). Adalwyd ar 20 Chwefror 2013.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Bell, Clare. "The Roy Lichtenstein Foundation – Chronology". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-06. Cyrchwyd November 12, 2007.
- ↑ Vogel, Carol (April 5, 2012). "A New Traveling Show of Lichtenstein Works". New York Times.
- ↑ Vogel, Carol (May 15, 2013). "Christie's Contemporary Art Auction Sets Record at $495 Million". The New York Times. Cyrchwyd May 18, 2013.
- ↑ Lucy Davies (November 17, 2008), Roy Lichtenstein: a new dimension in art The Daily Telegraph.
- ↑ Alloway 1983, t. 37
- ↑ "Roy Lichtenstein: Biography of American Pop Artist, Comic-Strip-style Painter". Encyclopedia of Art. Cyrchwyd 2013-06-05.
- ↑ Cronin, Brian. Why Does Batman Carry Shark Repellent?: And Other Amazing Comic Book Trivia!. Penguin Books. Cyrchwyd 2013-06-06.
- ↑ Collett-White, Mike (2013-02-18). "Lichtenstein show in UK goes beyond cartoon classics". Chicago Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-30. Cyrchwyd 2013-06-08.
- ↑ Kirkova, Deni (2013-02-19). "Pop goes the Tate! Iconic works of Roy Lichtenstein brought together for exciting new exhibition at the Tate Modern". Daily Mail. Cyrchwyd 2013-06-07.
- ↑ Hoang, Li-mei (2012-09-21). "Pop art pioneer Lichtenstein in Tate Modern retrospective". Chicago Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-11-03. Cyrchwyd 2013-06-08.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Alloway, Lawrence (1983). Roy Lichtenstein. Modern Masters Series. 1. New York: Abbeville Press. ISBN 0-89659-331-2.CS1 maint: ref=harv (link)
- Coplans, John (1972). Roy Lichtenstein. New York: Praeger. OCLC 605283.CS1 maint: ref=harv (link)
- Corlett, Mary Lee (2002). The Prints of Roy Lichtenstein : a Catalogue Raisonné 1948-1997 (arg. 2). New York, NY: Hudson Hills Press. ISBN 1-55595-196-1.CS1 maint: ref=harv (link)
- Hendrickson, Janis (1988). Roy Lichtenstein. Cologne, Germany: Benedikt Taschen. ISBN 3-8228-0281-6.CS1 maint: ref=harv (link)
- Lobel, Michael (2002). Image duplicator : Roy Lichtenstein and the emergence of pop art. New Haven, CT: Yale University Press. ISBN 9780300087628.CS1 maint: ref=harv (link)
- Lucie-Smith, Edward (September 1, 1999). Lives of the Great 20th-Century Artists. Thames & Hudson. ISBN 978-0-500-23739-7.CS1 maint: ref=harv (link)
- Marter, Joan M., gol. (1999). Off limits : Rutgers University and the Avant-Garde, 1957-1963. Newark, N.J.: Newark Museum. ISBN 0-8135-2610-8.CS1 maint: ref=harv (link)
- Selz, Peter (1981). "The 1960s: Painting". Art In Our Times: A Pictorial History 1890-1980. Harry N. Abrams, Inc. ISBN 0-8109-1676-2.CS1 maint: ref=harv (link)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Roy Lichtenstein Foundation
- Roy Lichtenstein Image Duplicator Archifwyd 2018-08-14 yn y Peiriant Wayback
- Inside Roy Lichtenstein's Studio 1990–92 Archifwyd 2013-06-08 yn y Peiriant Wayback
- 1977 BMW 320i with special paintjob by Roy Lichtenstein
- Roy Lichtenstein's public artwork at Times Square-42nd Street, commissioned by MTA Arts for Transit. Archifwyd 2014-02-21 yn y Peiriant Wayback
- Roy Lichtenstein: Pop Art's Most Popular; His Whimsical Paintings Once Evoked the "Shock of the New"; Now They Evoke Record Prices on the Auction Block Archifwyd 2013-10-17 yn y Peiriant Wayback
- Roy Lichtenstein in the National Gallery of Australia's Kenneth Tyler collection Archifwyd 2014-02-22 yn y Peiriant Wayback