Siracusa
Math | cymuned, dinas, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid, polis |
---|---|
Prifddinas | Siracusa |
Poblogaeth | 116,244 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Francesco Italia |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Lleucu |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Syracuse and the Rocky Necropolis of Pantalica, Free Municipal Consortium of Syracuse |
Sir | Free Municipal Consortium of Syracuse |
Gwlad | Yr Eidal |
Arwynebedd | 207.78 km², 898 ha |
Uwch y môr | 17 ±1 metr |
Yn ffinio gyda | Avola, Melilli, Noto, Priolo Gargallo, Solarino, Canicattini Bagni, Floridia, Palazzolo Acreide |
Cyfesurynnau | 37.0692°N 15.2875°E |
Cod post | 96100 |
Pennaeth y Llywodraeth | Francesco Italia |
Dinas a chymuned (comune) ar ynys Sisili yn yr Eidal yw Siracusa (Sisilieg Sarausa, Groeg Συρακοῦσαι, Lladin Syracusae, Ffrangeg a Saesneg Syracuse), sy'n brifddinas talaith Siracusa. Saif ar arfordir dwyreiniol yr ynys.
Roedd y boblogaeth yn 118,385 yng nghyfrifiad 2011.[1]
Sefydlwyd Siracusa yn 734 neu 733 CC gan Roegiaid o ddinasoedd Corinth a Tenea, dan arweiniad yr oecist (gwladychwr) Archias, a'i galwodd yn Sirako, gan gyfeirio at gors gyfagos. Tyfodd y ddinas i fod yn un o'r dinasoedd Groegaidd mwyaf grymus yn unman o gwmpas Môr y Canoldir.
Daeth y ddinas yn gyfoethog iawn mewn cynghrair a Gweriniaeth Rhufain yn ystod teyrnasiad Hiero II o 275 CC ymlaen. Wedi marwolaeth Hiero yn 215 CC, trodd ei olynydd Hieronymus yn erbyn Rhufain, a chipiwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid dan Marcus Claudius Marcellus yn 212 CC. Lladdwyd dinesydd enwocaf Siracusa, y gwyddonydd a mathemategydd Archimedes, pan gipiwyd y ddinas.
Siracusa oedd prifddinas yr ynys yn y cyfnod Rhufeinig. Bu dan reolaeth y Fandaliaid am gyfnod, cyn i'r cadfridog Belisarius ei chipio i'r Ymerodraeth Fysantaidd ar 31 Rhagfyr 535). O 663 hyd 668 roedd yr ymerawdwr Constans II yn teyrnasu o Siracusa. Cipiwyd y ddinas gan y Mwslimiaid yn 878, ac yn y cyfnod dilynol daeth Palermo yn brifddinas yr ynys yn lle Siracusa.
Yn 2005 daeth hen ganol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 8 Mai 2018