Sgwâr Dam
Math | sgwâr |
---|---|
Cysylltir gyda | Rokin, Damrak |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Amsterdam-Centrum, Amsterdam |
Sir | Amsterdam |
Gwlad | Yr Iseldiroedd |
Cyfesurynnau | 52.37306°N 4.89278°E |
Cod post | 1012 JS/NP |
Mae Sgwâr Dam, neu yn syml Y Dam (Iseldireg: de Dam) yn sgwâr yn ninas Amsterdam, prifddinas yr Iseldiroedd. Mae'r adeiladau nodedig a'r digwyddiadau rheolaidd a gynhelir yno yn gwneud y Sgwâr yn un o leoliadau pwysicaf y ddinas.
Lleoliad a Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Lleolir Sgwâr Dam yng nghanol hanesyddol Amsterdam, oddeutu 750 medr i'r de o'r prif ganolfan cludiant, Gorsaf Centraal. Siap hirsgwâr ydyw, ac ymestynna dros ardal o 200 medr o'r gorllewin i'r dwyrain a 100 medr o'r gogledd i'r de. Cysyllta strydoedd Damrak a Rokin, sy'n rhedeg ar hyd llwybr gwreiddiol yr afon Amstel o Orsaf Centraal i Muntplein (Sgwâr y Geiniog) a Munttoren. Mae'r Dam hefyd yn dynodi cyrchfan y strydoedd Nieuwendijk, Kalverstraat a Damstraat. Ychydig bellter tu hwnt i gornel ogledd-ddwyreiniol y Sgwâr, ceir y prif ardal golau coch, de Wallen.
Ar ochr orllewinol y sgwâr, ceir y Palas Brenhinol neo-glasurol, a wasanaethodd fel neuadd y ddinas o 1655 tan y cafodd ei newid yn gartref brenhinol ym 1808. Wrth ei ymyl, ceir yr Eglwys Newydd (Gothic Nieuwe Kerk) o'r 15g ac Amgueddfa Cŵyr Madame Tussaud. Codwyd y Gofeb Genedlaethol, sef piler wen a gynlluniwyd gan J.J.P. Oud, i gofio am ddioddefwyr yr Ail Rhyfel Byd ym 1956 a gwelir hyn ar ochr arall y sgwâr. Hefyd mae'r NH Grand Hotel Krasnapolsky a'r siop crand De Bijenkorf yn edrych allan y plaza. Mae'r atyniadau hyn i gyd wedi gwneud Sgwâr Dam yn gyrchfan i dwristiaid.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Panorama 360-gradd o'r Dam Archifwyd 2005-12-17 yn y Peiriant Wayback