Merch
Benyw ifanc yw merch (plentyn neu rhywun yn eu harddegau'n bennaf), mewn cyferbyniad i fachgen, sef gwryw ifanc.
Defnyddir hefyd y gair hogan, a geneth (lluosog: genod), yn y gogledd i gyfeirio at benyw ifanc yn gyffredinol. Ond yn y cyd-destun hwn y defnyddir y gair yn unig, yn wahanol i'r gair 'merch' sydd â defnydd gwahanol mewn sawl cyd-destun fel y disgrifir isod.
Defnydd y term
[golygu | golygu cod]Defnyddir y term merched hefyd i gyfeiro at fwy nag un ddynes, megis yn yr enw 'Merched y Wawr'. Fe'i defnyddir hefyd i gyfeirio at ddynes ifanc fel mater o barch, gan fod y gair dynes yn aml yn rhoi'r argraff o berson hŷn. Mae hyn i'r gwrthwyneb i'r term bachgen, na ddefnyddir i gyfeirio at ddyn ifanc fel rheol.
Ceir yn ogystal y term "hen ferch" i ddynodi dynes ddibriod mewn oed (cf. "hen lanc") a 'merch weddw' i ddynodi merch sydd wedi colli ei gŵr.
Perthynas
[golygu | golygu cod]Merch yw'r enw am epil benywaidd rhywun, a mab yw'r gair am epil gwrywaidd. Yn draddodiadol, fe'i defnyddiwyd i ddangos perthynas y person i'w thad neu ei mam yn y ffurf enwi patronymig, fel a wneir hyd heddiw gydag 'ap' (e.e. Huw ap Dafydd), e.e. roedd cymeriad poblogaidd yn Arfon gynt o'r enw 'Marged ferch Ifan'. Un o'r enghreifftiau cynharaf y gwyddom amdani yw 'Elen Luyddog ferch Cystennin', mewn llawysgrif o'r 13g sy'n cofnodi chwedl Macsen Wledig. Fel arfer, 'f' fach a roddir yn hytrach na phriflythyren. Cofier hefyd am 'Franwen ferch Llŷr' yn y Mabinogi (Llyfr Gwyn Rhydderch, 14g). Weithiau, newidiai 'merch' yn 'uch'/'ych', megis yn yr enw 'Nest ych Hywel' (1759) neu yn 'ach' fel a geir yn 'Elen ach William' (16g). Ceir enghreifftiau hefyd o enwau matronymig ar ferched.
Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys 'merch fedydd' (god-daughter), 'merch-yng-nghyfraith' (daughter-in-law); ceir 'merch wen' (stepdaughter) hefyd, ond 'llysferch' sy'n arferol heddiw. 'Merch fonheddig' ydy dynes o dras, sef boneddiges, a 'merch ordderch' ydy 'merch anghyfreithlon' (cf. hefyd 'merch/mab perth a llwyn').