Medal
Darn o fetel ac arno ysgrifen neu arwyddlun i anrhydeddu neu wobrwyo person neu i nodi achlysur yw medal.[1][2] Caiff ei bwrw mewn siâp darn arian, gan amlaf, er na chaiff ei chylchredeg. Dygir basgerfiadau ac arysgrifau ar wyneb blaen a thu ôl y fedal.
Gwneir medalau coffa er nodi neu ddathlu digwyddiad arbennig neu er cof am unigolyn o fri. Cyflwynir medalau milwrol, ar ffurf disgen, croes, neu seren, i gydnabod dewrder ym maes y gad, am gymryd rhan mewn ymgyrch benodol neu am gyflawni cyfnod o wasanaeth milwrol. Rhoddir medalau hefyd gan y wladwriaeth neu gan urdd neu gymdeithas sifil er anrhydedd yn y gwyddorau neu'r celfyddydau. Gwisgir medalau crefyddol gan rai credinwyr, megis Catholigion, sydd yn credu iddynt dderbyn bendith Duw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Creasid medalau celfydd ers cyfnod Groeg yr Henfyd. Nodir medalau'r Rhufeiniaid am bortreadau realistig. Daeth medalau yn ffasiynol yn ystod y Dadeni Dysg, yn enwedig drwy waith cywrain yr arlunydd Eidalaidd Pisanello. Roedd nifer o gerflunwyr a phaentwyr y Dadeni hefyd yn wneuthurwyr medalau, gan gynnwys Filippo Lippi, Benvenuto Cellini, ac Albrecht Dürer. Deigastio oedd y ffordd fwyaf cyffredin o wneud medalau yn y 15g, ond erbyn yr 16g cafodd y mwyafrif ohonynt eu bwrw mewn mowld. Yn y 19g, Ffrainc oedd y brif wlad am gynhyrchu medalau o werth celfyddydol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ medal. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) medal (civilian and military award). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2017.