Môr Japan
Math | môr ymylon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
Gwlad | Rwsia, Japan, Gogledd Corea, De Corea |
Arwynebedd | 978,000 ±1 km², 1,048,950 km² |
Gerllaw | Y Cefnfor Tawel |
Cyfesurynnau | 40°N 135°E |
Hyd | 2,254 cilometr |
Môr Japan[1] neu Môr y Dwyrain yw enw'r môr sydd wedi lleoli rhwng Japan, Corea a Rwsia yn Nwyrain Asia. Gan fod y môr wedi cylchu bron yn llwyr gan dir, nid oes yna llanw i gael yno.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]I'r gogledd o'r môr mae Rwsia a ynys Sakhalin; i'r gorllewin, De a Gogledd Corea. i'r dwyrain, mae' ynysoedd Hokkaidō, Honshū a Kyūshū yn Japan.
Mae'r môr yn mesur 3,742 medr o dan lefel y môr yn y man mwyaf dwfn. Ar gyfartaledd, dyfnder y môr yw 1,753 medr.
Economi
[golygu | golygu cod]Mae llawer o bysgod i gael yna, sydd yn gwneud pysgota yn bwysig iawn. Mae yna hefyd fineralau i'w gael ac mae yna sôn am nwy naturiol a petroliwm hefyd. Ar ôl i economiau gwledydd dwyrain Asia dyfu, mae'r môr wedi dod yn bwysig i fasnach hefyd.
Dadl dros yr enw
[golygu | golygu cod]Er bod yr enw Môr Japan (Japaneg: 日本海 nihonkai) yn cael ei ddefnyddio i enwi'r môr mewn rhan fwyaf o wledydd, mae De a Gogledd Corea yn gofyn am enw gwahanol. Mae De Corea yn dadlau mai Môr y Dwyrain dylai'r enw fod (Ar ôl yr enw Coreeg, 동해 Donghae) ac mae Gogledd Corea yn ffafrio Môr Dwyrain Corea (Coreeg: 조선동해 Chosŏn Tonghae). Maent yn dadlau mai hen enw am y môr oedd Môr Corea a fe newidiwyd yr enw gan Ymerodraeth Japan pan roedd Corea o dan eu rheolaeth yn yr 20g gynnar. O achos i'r gwrthwynebiad o wledydd Corea, mae rhai cyhoeddwyr Saesneg yn galw'r môr yn "Sea of Japan (East Sea)".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 106.