Neidio i'r cynnwys

Luxor

Oddi ar Wicipedia
Luxor
Mathdinas, atyniad twristaidd, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth202,232 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Kazanlak, Baltimore, Parintins, Shenzhen, Brasília Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLuxor Governorate Edit this on Wikidata
GwladYr Aifft Edit this on Wikidata
Arwynebedd416 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr89 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.6967°N 32.6444°E Edit this on Wikidata
Cod post85511 Edit this on Wikidata
Map
Cerflun Pharaonaidd yn Nheml Luxor.

Prif ddinas De'r Aifft a phrifddinas yr ardal o'r un enw yw Luxor (Arabeg: الأقصر al-Uqṣur), gyda phoblogaeth o 451.318 (cyfrifiad 2006), mewn ardal o 416km2. Mae Luxor yn sefyll ar safle dinas hynafol Thebes. Mae cymaint o olion archaeolegol yno fel bod rhai wedi cyferio at Luxor fel "amgueddfa awyr agored fwyaf y byd"; mae olion teml Karnak a Teml Luxor o fewn y ddinas fodern. Dros yr afon, sef Afon Nîl, mae rhagor o demlau a beddau'r Lan Orllewinol sef Necropolis Thebes, yn cynnwys Dyffryn y Brenhinoedd a Dyffryn y Breninesau. Prif ddiwydiant Luxor erbyn heddiw yw twristiaeth.

Balwnio Awyr Poeth dros y Nîl
Golygfa Panoramaidd dros Luxor
Gweler hefyd: Thebes.

O dan y Deyrnas Newydd daeth Luxor, neu Thebes, yn brifddinas yr Aifft, roedd hefyd yn ddinas grefydd y duw Amon-Ra. Ar y pryd fe'i gelwid yn "Waset". Dan oruchafiaeth y Groegwyr daeth yn Thebai neu Thebes. Dinas y gan porth oedd Thebes (Yr Aifft).

O dan y 11ed Brenhinllin, tyfodd i fod yn ddinas grefydd, gyfoeth, bwer a masnach. Dan Montuhotep II unwyd yr Aifft. Concrodd Kush, yng ngogledd Swdan, a thiroedd Canaan, Ffenicia, a Syria. Parhaodd ei phwysigrwydd o gyfnod y 18fed Frenhinllin hyd at yr 20fed Frenhinllin.

Erbyn amser y Groegwyr disodlwyd Thebes gan Alexandria yn cyfnod Ptolemi. Ond roedd Thebes yn ddinas y duw Amon-Ra, ac arhosodd fel prif ddinas crefydd yr Aifft. Y tri duw pwysicaf oedd Amon, ei wraig, y duwies Mut, a'u mab Khonsu, duw y lleuad. Teml i frenin y duwiau Amon-Ra yw Karnak i'r gogledd o Thebes. Daeth, Alexander Fawr i addoli yn Nheml Amun, ac yn y canrifodd cyntaf OC daeth mynachod Cristnogol dan yr Ymerodraeth Rufeinig i Luxor i ymsefydlu ymhlith y temlau paganaidd fel un Hatshepsut, erbyn heddiw Deir el-Bahri ("mynachlog y gogledd").

Teml Luxor

Hinsawdd

[golygu | golygu cod]
Luxor Ion Chw Maw Ebr Mai Meh Gor Awst Medi Hyd Tach Rhag
Tymheredd
- Uchafbwynt cyfartalog (°C)
(°C)
23.0 23.0 25.4 27.4 35.0 39.2 41.4 40.4 38.8 35.3 28.9 24.4
Glawiad misol cyfartalog (mm) 0 0 0 0 0 0 0 0 1 0 0 1

Mae llai na 3mm o law bob blwyddyn ac y tymheredd ar adegau yn mynd dros 50c.

Hynafiaethau ardal Luxor

[golygu | golygu cod]
Strydoedd Luxor yn 2004

Trafnidiaeth

[golygu | golygu cod]
Maes Awyr Luxor

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]