Neidio i'r cynnwys

Llyn Toba

Oddi ar Wicipedia
Llyn Toba
Mathllyn crater folcanig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Sumatra Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Arwynebedd1,145 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr905 metr, 900 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau2.6797°N 98.8872°E, 2.67°N 98.8875°E Edit this on Wikidata
Hyd87 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Llyn yng ngogledd ynys Sumatra yn Indonesia yw Llyn Toba (Indoneseg: Danau Toba). Saif yn nhalaith Gogledd Sumatra, ac mae'n 100 km o hyd a 30 km o led. Yn ei ganol, ceir ynys folcanig Ynys Samosir.

Ffurfiwyd y llyn yn yr hyn sydd efallai'r callor atgyfodol mwyaf ar y Ddaear, a grëwyd gan ffrwydrad enfawr tua 73,000-75,000 o flynyddoedd yn ôl. Cafodd y ffrwydrad effaith ar ran helaeth o'r byd, gan wasgaru llwch cyn belled â Tsieina a de Affrica. Credir i'r ffrwydrad achosi marwolaeth tua 60% o boblogaeth ddynol y byd. Ystyrir y llyn a'r ynys yn ganolfan diwylliant y Batak, ac maent yn gyrchfannau poblogaidd i dwristiaid.

Ar 18 Mehefin 2018, daeth y fferi MV Sinar Bangun i ben ar y llyn, yn ystod ei daith o Harbwr Simanindo, Ynys Samosir, i'r Harbwr Tiga Ras. Cafodd y gapten ei arestio yn ei gartref yn Simanindo ar ôl y ddamwain.

Llyn Toba
Llun Lloeren o'r llyn ac ynys Samosir