Owrtyn
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,275 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.969°N 2.935°W |
Cod SYG | W04000238 |
Cod OS | SJ372417 |
Cod post | LL13 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
- Am y pentref o'r un enw Saesneg yn sir Abertawe, gweler Overton.
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Owrtyn[1] (Saesneg: Overton[2] neu Overton-on-Dee). Saif ar lan Afon Dyfrdwy ger cyffordd priffyrdd yr A528 a'r A539. Saif 7 milltir (11 km) o dref Wrecsam a 22 milltir (35 km) o Gaer a'r Amwythig.
Dywedir fod y casgliad o saith ywen sy'n tyfu ym mynwent Eglwys y Santes Fair yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae'r eglwys ei hun yn dyddio i'r tua'r 12g, ond mae'r coed yw rhwng 1500 a 2000 o flynyddoedd oed; oherwydd hyn, mae'n debygol fod yma eglwys Geltaidd cynharach yn y lleoliad hwn.
Mae’n debyg bod enw'r pentref yn dod o'r hen Saesneg Ovretone, yn golygo 'tref uwch' neu 'ucheldre'. Saif ar esgair uwchben Afon Dyfrdwy.
Defnyddir tywodfaen coch leol ar gyfer llawer o'r adeiladau, er bod yma hefyd friciau o farl teracota o Riwabon neu Gefn Mawr. Er defnyddiwyd tywodfaen wrth adeiladu’r eglwys, mae briciau’n domineiddio tai’r pentref. Defnyddir llechu neu deils cochion ar toeau. Oedd llawer o’r tai teras a bythynnod lled-wahanedig ar Ffordd Wrecsam a Ffordd Salop yn fythynod gweithwyr y stadau mawrion, Bryn y Pys a Gwernhaylod. Perchnogion Poethlyn, enillydd ras y Grand National, oedd y teulu Peel o Fryn y Pys. Adeiladwyd neuadd y pentref ym 1926. Drws nesaf yw’r Ystafelloedd Darllen a Coco, adeilawyd gan Edmund Peel, yn disodlu bwthyn a gweithdy dymchwelwyd yn 1890. Defnyddiwyd yr adeilad cynharach i werthu papurau newydd a lluniaeth ac ar gyfer adloniant[3].
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Andrew Ranger (Llafur).[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Arferai marchnad fod yn rhan ogleddol y stryd fawr yn yr Oesoedd Canol. Credir bod pentref bach ar y safle, pentref a reolid gan fynachlog Bangor-is-y-coed. Dinistrwyd y fynachlog gan Aethelfrith, brenin Northumbria yn 616OC a daeth y pentref o dan ddylanwad Mersia. Rhoddwyd y pentref i Robert Fitzhugh, cefnogwr i'r brenin Wiliam ar ôl 1066. Ym 1130, daeth Owrtyn yn rhan o Bowys Fadog. Credir adeiladwyd castell gan Madog ap Maredudd ar lan afon Dyfrdwy ger y pentref. Crewyd Owrtyn yn fwrdeistref gan y brenin Edward I ym 1278, a sefydlwyd marchnad ym 1279. Daeth y pentref yn fwrdeistref rhydd ym 1292. Sonir fod y Cymry, dan arweiniad Madog ap Llywelyn, yn 1294–1295, wedi cyrchu yma i ymosod ar Edward I. Adeiladwyd safleoedd burgage ar y stryd fawr, tai gyda stondinau o’u blaen i werthu cynnyrch ar y stryd, sydd yn rheswm dros led y stryd fawr. Daeth Owain Glyn Dŵr trwy Owrtyn, yn ysbeilio a dinistrio ym 1403–1404; araf oedd adfywiad y pentref.
Adeiladwyd ‘The Brow’ yn yr 1800au cynnar. Roedd y tŷ’n gartref i Edward a Marianne Parker. Roedd Marianne yn chwaer i Charles Darwin, a dreuliodd rhan sylweddol o'i blentyndod yn Owrtyn. Mae map y degwm ym 1838 yn dangos 8 tafarndy yn y pentref, yn cynnwys Y Ceffyl Gwyn, Bryn y Pys, y Bowling Green, Cross Keys, Blue Bell a’r Aradr. Roedd 2 gapel methodistiaid hefyd. Tyfodd y pentref yn gyflym; cynhaliwyd marchnadoedd bob dydd Sadwrn a ffeiriau bob 3 mis. Adeiladwyd neuadd farchnad ar y stryd fawr yn ystod y 19eg ganrif. Agorwyd rheilffordd rhwng Wrecsam ac Ellesmere ym 1895 gan Reilffordd y Cambrian gyda gorsaf yn Lightwood Green, milltir a hanner i’r dwyrain. Caewyd y lein ym 1962 a chodwyd y cledrau. Mae stad ddiwydiannol ar y safle erbyn hyn. Adeiladwyd Tŷ Coffa ar Ffordd Wrecsam ym 1905 er cof Edmund Peel o Fryn y Pys. Yn ystod ail hanner yr 20g, adeiladwyd sawl stad tai i’r gogledd, dwyrain a de’r pentref. Dymchwelwyd Plas Owrtyn, ar gornel Stryd Fawr a Stryd yr Helyg, er mwyn adeiladu stad tai Sundorne. Cwblhawyd meddygfa a fferyllfa yn 2006 ar y Stryd Fawr. [6]
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Thomas Penson (c. 1790 – 1859), pensaer a syrfewr y bont
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 16 Tachwedd 2021
- ↑ "Cynllun assessu a rheoli ardal cadwriaeth Owrtyn" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-03-18. Cyrchwyd 2018-08-26.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Cynllun assessu a rheoli ardal cadwriaeth Owrtyn" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-03-18. Cyrchwyd 2018-08-26.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y pentref
Trefi
Y Waun · Wrecsam
Pentrefi
Acrefair · Bangor-is-y-coed · Y Bers · Bronington · Brymbo · Brynhyfryd · Bwlchgwyn · Caego · Cefn Mawr · Coedpoeth · Erbistog · Froncysyllte · Garth · Glanrafon · Glyn Ceiriog · Gresffordd · Gwersyllt · Hanmer · Holt · Llai · Llanarmon Dyffryn Ceiriog · Llannerch Banna · Llan-y-pwll · Llechrydau · Llys Bedydd · Marchwiail · Marford · Y Mwynglawdd · Yr Orsedd · Owrtyn · Y Pandy · Pentre Bychan · Pentredŵr · Pen-y-bryn · Pen-y-cae · Ponciau · Pontfadog · Rhiwabon · Rhos-ddu · Rhosllannerchrugog · Rhostyllen · Rhosymedre · Talwrn Green · Trefor · Tregeiriog · Tre Ioan · Wrddymbre