Jabaliya
Rhan o Jabaliya yn dilyn yr ymosodiad gan Israel | |
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 82,877 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llywodraethiaeth Gogledd Gaza |
Gwlad | Palesteina |
Arwynebedd | 25 km² |
Uwch y môr | 40 metr |
Cyfesurynnau | 31.5281°N 34.4831°E |
Cod post | 00972 |
Gwersyll ffoaduriaid Palesteinaidd yng ngogledd Llain Gaza yw Jabaliya. Mae'r gwersyll, sy'n dref sylweddol, yn gorwedd i'r gogledd o ddinas Gaza, rhwng y ddinas hwnnw a'r ffin gydag Israel. Amcangyfrifir fod tua 100,000 o bobl yn byw yno neu yn ei gyffiniau.
Rhyfel 2008-2009
[golygu | golygu cod]Dioddefodd Jabaliya yn drwm pan ymosododd Israel ar dir Gaza ar noson y 3ydd o Ionawr 2009 a'r diwrnod wedyn. Erbyn bore'r 4ydd o Ionawr roedd miloedd o'r trigolion yn ffoi i geisio lloches yn ninas Gaza. Ar y 5ed o Ionawr cafwyd adroddiad fod Ysbyty al-Awda yn Jabaliya wedi cael ei daro gan ddau fom Israelaidd a ffrwydrodd o flaen y fynedfa gan ei ddifrodi. Roedd ambiwlansus yn dod â phobl anafiedig pan ddigwyddodd hynny.[1]
Yn y prynhawn ar y 6ed o Ionawr 2009, adroddwyd fod un o ysgolion y Cenhedloedd Unedig yn Jabaliya a oedd yn cael ei defnyddio fel lloches i ffoaduriaid wedi cael ei bomio gan fyddin Israel. Lladdwyd o leiaf 40 o sifiliaid yn Ysgol Al Fakhara. Nododd llefarydd ar ran UNRWA fod baneri'r Cenhedloedd Unedig yn hedfan uwchben yr ysgol a bod ei lleoliad manwl wedi'i rhoi i'r Israeliaid er mwyn osgoi digwyddiad o'r fath.[2] Claddwyd y lladdedigion gan eu teuluoedd mewn angladd mawr ar y 7fed o Ionawr, yn ystod y cadoediad 3 awr a drefnwyd, wrth i'r cyfanswm o Balesteiniaid a laddwyd ers dechrau'r rhyfel gyrraedd dros 700 gyda tua 2900 wedi'u hanafu.[3]
Archeoleg
[golygu | golygu cod]Cafwyd hyd i fynwent Cristnogol, fawr yn dyddio o'r 8g ger Jabalia. Mae'r crefftwaith yn dangos bod y gymuned Gristnogol yn Gaza yn dal i fodoli i raddau helaeth yn y cyfnod Islamaidd cynnar o reolaeth, ym Mhalestina. Mae olion y palmant a arbedwyd gan yr eiconoclastau yn dangos darluniau o helfa adar ac anifeiliaid gwyllt, a golygfeydd gwledig. Dyddiwyd yr eiconoclastau, i rywbryd ar ôl 750, sy'n gwneud y fynwent yn gysylltiedig â cheidwadwyr Abbasid.
Wrth weithio ar Ffordd Salah al-Din, canfuwyd olion mynachlog o'r cyfnod Bysantaidd ar ddamwain. Cloddiwyd y safle gan Adran Hynafiaethau Palestina. Nawr mae mosaigs Bysantaidd syfrdanol y fynachlog wedi'u gorchuddio â thywod i'w cysgodi rhag erydiad a achosir gan effaith uniongyrchol glaw'r gaeaf.[4] Mae cerameg Bysantaidd hefyd wedi'i ddarganfod.[5]
Hanes
[golygu | golygu cod]Yr Oesoedd Canol
[golygu | golygu cod]Roedd Jabalia yn adnabyddus am ei bridd ffrwythlon a'i goed sitrws. Rheolodd y Llywodraethwr Mamluk Gaza Sanjar al-Jawli dros yr ardal ar ddechrau'r 14g a gwaddolodd rhan o dir Jabalia i'r Mosg al-Shamah ac yna, fe'i adeiladodd. Yn Jabalia mae canoloesol Mosg Omari hefyd. Dim ond y portico a'r minaret sydd ar ôl, bellach. Mae gweddill y mosg yn fodern. Mae'r portico'n cynnwys tair arcêd wedi'u cefnogi gan bedair colofn garreg. Mae gan yr arcedau fwâu pigfain ac mae'r portico wedi'i orchuddio gan fwau croes.
Cyfnod Otomanaidd
[golygu | golygu cod]Wedi'i hymgorffori yn yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1517 (â'r cyfan o Balestina), ymddangosodd Jabalia yng nghofrestrau treth 1596 fel pe bai yn ardal Nahiya o Gaza. Roedd ganddi boblogaeth o 331 o aelwydydd, pob un yn Fwslim, a dalodd drethi ar wenith, haidd, caeau gwinwydd a choed ffrwythau; cyfanswm o 37,640 akçe. Aeth 2/3 o'r refeniw i waqf (math o dreth Fwslimaidd).[6]
Yn 1838, nododd Edward Robinson fod Jebalia yn bentref Mwslimaidd, wedi'i leoli yn ardal Gaza.[7]
Ym 1863, darganfu’r fforiwr Ffrengig Victor Guérin yn y mosg a'r ffynnon darnau o golofnau.[8] Yn 1870 roedd gan y pentref boblogaeth o 828, a 254 o dai, er bod y cyfrif poblogaeth yn cynnwys dynion yn unig.[9][10]
Yn Arolwg 1883 gan Gronfa Archwilio Palesteina, disgrifiwyd Jabalia fel pentref mawr a godwyd o friciau mwd, gyda gerddi a ffynnon yn y gogledd-orllewin. Roedd ganddo fosg o'r enw Jamia Abu Berjas.[11]
Oes Mandad Prydain
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 1922 o Balesteina a gynhaliwyd gan awdurdodau Mandad Prydain, roedd gan Jabalia boblogaeth o 1,775 o drigolion, pob un yn Fwslim;[12] cynyddodd hyn yng nghyfrifiad 1931 i 2,425, pob un yn Fwslim o hyd, mewn 631 o dai.[13]
Ôl-1948
[golygu | golygu cod]Yn ystod misoedd cynnar yr Intifada Cyntaf ar 27 Mawrth 1989 curwyd Fares S'aid Falcha, dyn 50 oed, gan filwyr Israel a bu farw 3 wythnos yn ddiweddarach yn Ysbyty Makassed. Lluniwyd adroddiad gan Heddlu Milwrol Israel a throsglwyddwyd y manylion i'r Prif Erlynydd Milwrol.[14]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Mae gan Jabalia gyfradd uwch na'r cyfartaledd o enedigaethau Pseudohermaphroditism gwrywaidd, lle mae gan yr unigolyn geilliau ac organau rhywiol benywaidd.
Mae Jehad Abudaia, pediatregydd ac wrolegydd o Ganada-Palesteina, wedi awgrymu bod cydberthynas rhwng priodasau cefndryd yn cyfrif am y genedigaethau hyn. Yn Llain Gaza, mae cyflyrau pseudohermaphroditism yn aml yn mynd heb eu canfod am flynyddoedd ar ôl yr enedigaeth oherwydd safonau is y rhanbarth o driniaeth feddygol a diagnosteg.[15]
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Mae Jabalia wedi'i efeillio â:[16]
- Ümraniye, Twrci
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Barron, J.B., gol. (1923). Palestine: Report and General Abstracts of the Census of 1922. Government of Palestine.
- Conder, C.R.; Kitchener, H.H. (1883). The Survey of Western Palestine: Memoirs of the Topography, Orography, Hydrography, and Archaeology. 3. London: Committee of the Palestine Exploration Fund.
- Dauphin, Claudine (1998). La Palestine byzantine, Peuplement et Populations. BAR International Series 726 (yn Ffrangeg). III : Catalogue. Oxford: Archeopress. ISBN 0-860549-05-4.
- Department of Statistics (1945). Village Statistics, April, 1945. Government of Palestine.
- Guérin, V. (1869). Description Géographique Historique et Archéologique de la Palestine (yn Ffrangeg). 1: Judee, pt. 2. Paris: L'Imprimerie Nationale.
- Hadawi, S. (1970). Village Statistics of 1945: A Classification of Land and Area ownership in Palestine. Palestine Liberation Organization Research Center.
- Hartmann, M. (1883). "Die Ortschaftenliste des Liwa Jerusalem in dem türkischen Staatskalender für Syrien auf das Jahr 1288 der Flucht (1871)". Zeitschrift des Deutschen Palästina-Vereins 6: 102–149. https://archive.org/details/bub_gb_BZobAQAAIAAJ.
- Hütteroth, Wolf-Dieter; Abdulfattah, Kamal (1977). Historical Geography of Palestine, Transjordan and Southern Syria in the Late 16th Century. Erlanger Geographische Arbeiten, Sonderband 5. Erlangen, Germany: Vorstand der Fränkischen Geographischen Gesellschaft. ISBN 3-920405-41-2.
- Mills, E., gol. (1932). Census of Palestine 1931. Population of Villages, Towns and Administrative Areas. Jerusalem: Government of Palestine.
- Palmer, E.H. (1881). The Survey of Western Palestine: Arabic and English Name Lists Collected During the Survey by Lieutenants Conder and Kitchener, R. E. Transliterated and Explained by E.H. Palmer. Committee of the Palestine Exploration Fund.
- Robinson, E.; Smith, E. (1841). Biblical Researches in Palestine, Mount Sinai and Arabia Petraea: A Journal of Travels in the year 1838. 3. Boston: Crocker & Brewster.
- Socin, A. (1879). "Alphabetisches Verzeichniss von Ortschaften des Paschalik Jerusalem". Zeitschrift des Deutschen Palästina-Vereins 2: 135–163. https://archive.org/details/zeitschriftdesde01deut.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Civilian deaths mount in Gaza war" 05.01.2009 Al Jazeera.
- ↑ "Scores killed as Gaza school hit" 05.01.2009 Al Jazeera.
- ↑ Fideo: "Gaza families mourn dead after UN school bombed" 07.01.2009 Al Jazeera ar YouTube.
- ↑ Jabalya Mosaic Archifwyd 2009-03-27 yn y Peiriant Wayback Programme of Assistance to the Palestinian People. p.6. 2004.
- ↑ Dauphin, 1998, p. 883
- ↑ Hütteroth and Abdulfattah, 1977, p. 144
- ↑ Robinson and Smith, 1841, vol 3, Appendix 2, p. 118
- ↑ Guérin, 1869, pp. 175-176; as referred by Conder and Kitchener, 1883, SWP III, p. 251
- ↑ Socin, 1879, p. 153
- ↑ Hartmann, 1883, p. 129, noted 253 houses
- ↑ Conder and Kitchener, 1883, SWP III, p. 236
- ↑ Barron, 1923, Table V, Sub-district of Gaza, p. 8
- ↑ Mills, 1932, p. 4
- ↑ Talmor, Ronny (translated by Ralph Mandel) (1990) The Use of Firearms - By the Security Forces in the Occupied Territories. B'Tselem. download p. 75 MK Yair Tsaban to defence ministers Yitzhak Rabin & Yitzhak Shamir, p.81 Rabin's reply
- ↑ Watson, Ivan. "Rare Gender Identity Defect Hits Gaza Families." CNN. December 17, 2009. Retrieved on December 17, 2009.
- ↑ "Ümraniye Municipality and Palestine Jabalia Al Nazlah Municipality Has Become 'Sister Municipalities' With a Ceremony". umraniye.bel.tr. Ümraniye. Cyrchwyd 2020-06-01.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- UNRWA Jabalia
- Croeso i Ddinas Jabaliya
- Arolwg o Balesteina Gorllewinol, Map 19: IAA, comin Wikimedia