José Rizal
Gwedd
José Rizal | |
---|---|
Ffugenw | Dimas-Alang, Laón Laán, Laón Laang |
Ganwyd | José Protasio Rizal-Mercado y Alonso-Realonda 19 Mehefin 1861 Calamba |
Bu farw | 30 Rhagfyr 1896 o anaf balistig Manila |
Dinasyddiaeth | Captaincy General of the Philippines |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, ieithydd, ophthalmolegydd, arlunydd, gweithredydd gwleidyddol, bardd, llawfeddyg, meddyg, gwleidydd, chwyldroadwr |
Adnabyddus am | Noli Me Tángere, El filibusterismo, Mi último adiós |
Mudiad | Propaganda Movement |
Tad | Francisco Mercado |
Mam | Teodora Alonso |
Priod | Josephine Bracken |
Perthnasau | Delfina Herbosa de Natividad |
llofnod | |
Delwedd:Jose rizal signature.svg, Jose Rizal autograph.svg |
Cenedlaetholwr a merthyr o'r Philipinau oedd José Protacio Mercado Rizal de Alejandro, Lam-co Alonso de la Rosa, y Realonda de Quintos (19 Mehefin 1861 – 30 Rhagfyr 1896).[1] Roedd yn bolymath: bardd a llenor toreithiog, arlunydd, ac offthalmolegydd, ac roedd yn medru nifer o ieithoedd. Ymhlith ei nofelau mae Noli me Tangere a'r dilyniant, El Filibusterismo.
Roedd yn genedlaetholwr brwdfrydig a galwodd am annibyniaeth i'r Philipinau oddi ar Ymerodraeth Sbaen. Yn ôl nifer o ysgolheigion, sbardunwyd Chwyldro'r Philipinau gan ddienyddiad Rizal. Heddiw dethlir Diwrnod Rizal yn y Philipinau pob blwyddyn er cof amdano. Mae tua 300,000 o bobl yng nghefn gwlad y Philipinau yn dilyn cwlt sy'n addoli Rizal fel duw neu Grist.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Jose Rizal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ (Saesneg) Rizalist cult. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.