John Mayall
John Mayall | |
---|---|
Ganwyd | John Brumwell Mayall 29 Tachwedd 1933 Macclesfield |
Bu farw | 22 Gorffennaf 2024 Los Angeles, Califfornia |
Label recordio | Decca Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gitarydd, cyfansoddwr, pianydd, cyfansoddwr caneuon, canwr, artist recordio, hunangofiannydd |
Arddull | roc y felan, y felan, British blues, electric blues |
Plant | Gaz Mayall |
Gwobr/au | OBE |
Gwefan | https://www.johnmayall.com/ |
Roedd John Brumwell Mayall OBE (29 Tachwedd 1933 - 22 Gorffennaf 2024) yn gerddor blues a roc o Loegr. Roedd e'n gyfansoddwr caneuon ac yn gynhyrchydd hefyd.
Yn y 1960au, ffurfiodd John Mayall & the Bluesbreakers, band sydd wedi cyfrif ymhlith ei aelodau rai o gerddorion roc enwocaf y felan a'r blŵs, yn gynnwys Eric Clapton, Jack Bruce a Peter Green.
Cafodd ei eni ym Macclesfield, Swydd Gaer,[1][2] yn fab i'r cerddor Murray Mayall.
Aeth Mayall i Gorea fel rhan o'i wasanaeth cenedlaethol[3] . Prynodd ei gitâr drydan gyntaf tra yn Siapan ar wyliau. Ar ôl ei wasanaeth, astudiodd yng Ngholeg Celf Manceinion a dechreuodd chwarae gyda band lled-broffesiynol, y Powerhouse Four.[3] Ym 1963, dewisodd yrfa gerddorol amser llawn a symudodd i Lundain.[3]
Daeth John Mayall yn ganwr, gitarydd, chwaraewr harmonica, ac allweddellwr, roedd ganddo yrfa a oedd yn ymestyn dros bron i saith degawd, gan barhau i fod yn gerddor gweithgar hyd ei farwolaeth yn 90 oed. Fel “tad bedydd y felan Brydeinig”. Cafodd ei sefydlu yn Oriel Anfarwolion Roc a Rôl yn y categori dylanwad cerddorol yn 2024.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "UPI Almanac for Friday, Nov. 29, 2019" (yn Saesneg). United Press International. 29 Tachwedd 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 11 Ionawr 2020.
- ↑ "Pride of Manchester's guide to John Mayall" (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Mehefin 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Colin Larkin, gol. (1995). The Guinness Who's Who of Blues (yn Saesneg) (arg. Ail). Guinness Publishing. t. 256/7. ISBN 0-85112-673-1.