Neidio i'r cynnwys

John Hume

Oddi ar Wicipedia
John Hume
Ganwyd18 Ionawr 1937 Edit this on Wikidata
Derry, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 2020 Edit this on Wikidata
Derry Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
  • St Columb's College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddLeader of the Social Democratic and Labour Party, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Member of the 1st Northern Ireland Assembly, Member of the 1982–1986 Northern Ireland Assembly, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, Aelod Senedd Ewrop, member of the 1973–74 Northern Ireland Assembly Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSDLP Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Seán MacBride Peace Prize, Marchog-Cadlywydd Urdd Sant Grigor Fawr, Gandhi Peace Prize, Gwobr y Pedwar Rhyddid - Rhyddid Mynegiant, honorary doctor of the University of Rennes 2, Gwobr Heddwch Hesse, Gwobr James Joyce, Dinasyddiaeth Anrhydeddus Palermo, honorary doctorate of Trinity College, Dublin, Officier de la Légion d'honneur, honorary doctorate from the University of Nice-Sophia Antipolis, Ellis Island Medal of Honor Edit this on Wikidata

Cyn-wleidydd o Ogledd Iwerddon fu yn arweinydd y blaid SDLP o 1970 hyd 1979 oedd John Hume (18 Ionawr 19373 Awst 2020)[1]. Ystyrir ef yn un o brif arweinyddion y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Ganed ef yn Derry, ac aeth i Goleg Sant Padrig, Maynooth i hyfforddi i fod yn offeiriad Catholig. Ni chwblhaodd ei astudiaethau ar gyfer yr offeiriadaeth, ond cafodd radd M.A. gan y coleg, cyn mynd yn athro. Daeth yn ffigwr amlwg yn y mudiad hawliau sifil yn Derry yn niwedd y 1960au. Etholwyd ef i senedd Gogledd Iwerddon fel Cenedlaetholwr Annibynnol yn 1969.

Roedd yn un o sylfaenwyr plaid yr SDLP yn 1970, ac yn 1979 olynodd Gerry Fitt fel ei harweinydd. Bu'n rhan o drafodaethau gyda'r llywodraeth Brydeinig a Sinn Féin, y credir iddynt arwain at gytundeb rhwng Prydain a Gweriniaeth Iwerddon yn 1985, ac yna gadoediad yr IRA yn 1994.

Yn 1998 dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel iddo ef a David Trimble o'r UUP am eu cyfraniad i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Ymddeolodd fel arweinydd yr SDLP yn 2001, a chyhoeddodd ei ymddeoliad o wleidyddiaeth yn 2004.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Senedd Gogledd Iwerddon
Rhagflaenydd:
Eddie McAteer
Aelod Seneddol dros Foyle
19691972
Olynydd:
prorogued 1972
dilewyd y Senedd 1973
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Foyle
19832005
Olynydd:
Mark Durkan