Neidio i'r cynnwys

Herbert von Karajan

Oddi ar Wicipedia
Herbert von Karajan
GanwydHeribert Ritter von Karajan Edit this on Wikidata
5 Ebrill 1908 Edit this on Wikidata
Salzburg Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 1989 Edit this on Wikidata
Anif, Salzburg Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstria Awstria
Alma mater
  • Mozarteum University Salzburg
  • Prifysgol Gerdd a Chelf Mynegiannol Fiena Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd, cyfarwyddwr cerdd, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Swyddcyfarwyddwr cerdd, principal conductor, cyfarwyddwr cerdd, cyfarwyddwr cerdd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
TadErnst von Karajan Edit this on Wikidata
MamMartha von Karajan Edit this on Wikidata
PriodElmy Holgerloef, Anita von Karajan, Eliette von Karajan Edit this on Wikidata
PlantIsabel Karajan, Arabel Karajan Edit this on Wikidata
Gwobr/auDinesydd anrhydeddus Berlin, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic, Uwch swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Ernst von Siemens Music Prize, Hans von Bülow Medal Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://karajan.org/ Edit this on Wikidata
llofnod

Arweinydd cerddorfa o Awstria oedd Herbert von Karajan (5 Ebrill 190816 Gorffennaf 1989). Mae'n cael ei ystyried fel un o brif arweinwyr yr 20g. Rhan o'r rheswm am hyn oedd y nifer fawr o recordiadau a wnaeth a'u hamlygrwydd yn ystod ei oes. Yn ôl un amcangyfrif ef oedd yr artist recordio cerddoriaeth glasurol a werthodd orau erioed, wedi gwerthu amcangyfrif o 200 miliwn o recordiau.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Heribert Ritter von Karajan yn Salzburg, Awstria-Hwngari, yn ail fab i'r uwch ymgynghorydd meddygol Ernst von Karajan a Marta (née Kosmač).[2][3] Roedd yn blentyn gyda doniau rhyfeddol wrth ganu'r piano. Rhwng 1916 a 1926, astudiodd yn y Mozarteum yn Salzburg gyda Franz Ledwinka (piano), Franz Zauer (cynghanedd), a Bernhard Paumgartner (cyfansoddi a cherddoriaeth siambr).[3] Cafodd ei annog i ganolbwyntio ar arwain gan Paumgartner, a ganfu ei addewid eithriadol yn hynny o beth. Ym 1926 graddiodd Karajan o'r conservatoire. Aeth i Academi Fienna i barhau ei addysg, gan astudio'r piano gyda Josef Hofmann ac arwain gydag Alexander Wunderer a Franz Schalk.[4]

Ym mis Gorffennaf 1938 priododd y gantores operetta Elmy Holgerloef, cafodd y cwpl ysgariad ym 1942. Ar Hydref 22 yr un flwyddyn, priododd Anna Maria "Anita" Gütermann, aeres y diwydiant tecstilau Gütermann, cawsant ysgariad ym 1958. Yr un flwyddyn priododd am y trydydd tro ag Eliette Mouret, bu iddynt ddwy ferch.

Gwnaeth Karajan ei ymddangosiad cyntaf fel arweinydd yn Salzburg ar 22 Ionawr 1929. Daeth y perfformiad â sylw Rheolwr Cyffredinol y Stadttheater yn Ulm, ac yn y pen draw arweiniodd at benodiad cyntaf Karajan fel Kapellmeister cynorthwyol y theatr.[2][3] Ei bennaeth yn Ulm oedd Otto Schulmann. Ar ôl i Schulmann gael ei orfodi i adael yr Almaen ym 1933 pan ddaeth yr Y Blaid Natsïaidd i rym, cafodd Karajan ei ddyrchafu i'w swydd fel prif Kapellmeister.

Llwyddiannau yn ystod cyfnod Natsïaeth

[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 1935, cafodd gyrfa Karajan hwb sylweddol pan ymunodd a'r Blaid Natsïaidd. Y flwyddyn honno, enwyd Karajan yn arweinydd cerddorfa ieuengaf yr Almaen ac roedd yn arweinydd gwadd ym Mrwsel, Stockholm, Amsterdam a dinasoedd Ewropeaidd eraill. Ar ben hynny, ym 1937, gwnaeth Karajan ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Berlin ac Opera Talaith Berlin (a gyfarwyddodd o 1939 , yn ystod yr Ail Ryfel Byd) gyda Fidelio. Mwynhaodd lwyddiant rhyfeddol gyda Tristan und Isolde ac ym 1938. Wedi arwyddo cytundeb gyda Deutsche Grammophon y flwyddyn honno, gwnaeth Karajan y cyntaf o’i recordiadau niferus gan gyfarwyddo’r Staatskapelle Berlin yn agorawd Y Ffliwt Hud.[5] Fodd bynnag, pechodd Adolf Hitler pan wnaeth camgymeriad wrth arwain Die Meistersinger von Nürnberg mewn cyngerdd gala a gynhaliwyd gan Hitler er anrhydedd i frenin Iwgoslafia ym mis Mehefin 1939. Wrth arwain heb y sgôr, collodd Karajan ei le a stopiodd y cantorion yng nghanol y dryswch gan ddifetha'r perfformiad. Yn gandryll, dywedodd Hitler "Ni fydd Herr von Karajan byth yn arwain yn Bayreuth cyhyd ag y byddaf yn byw," ac felly y bu. Er ei fod yn ddigwyddiad cywilyddus iddo fel arweinydd, fe fu'n moddion i arbed ei yrfa ar ôl y rhyfel.

Blynyddoedd ar ôl y rhyfel

[golygu | golygu cod]

Ym 1946, rhoddodd Karajan ei gyngerdd cyntaf yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, yn Fienna, gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna, ond yn ddiweddarach gwaharddodd awdurdodau goresgyniad y Sofietiaid ef rhag arwain oherwydd ei gysylltiad â'r blaid Natsïaidd. Yn ystod haf y flwyddyn honno cymerodd ran yn ddienw yng Ngŵyl Salzburg. Y flwyddyn ganlynol codwyd y gwaharddiad a dechreuodd arwain eto. Ym 1948, daeth Karajan yn gyfarwyddwr artistig y Gesellschaft der Musikfreunde (Cymdeithas Cyfeillion Cerdd), Fienna. Bu hefyd yn arwain yn Theatr La Scala, Milan.[6]

Ei weithgaredd amlycaf ar yr adeg hon oedd recordio gyda'r Gerddorfa Philharmonia a oedd newydd ei ffurfio yn Llundain, gan helpu i'w wneud yn un o oreuon y byd.

Ym 1956, penodwyd Karajan yn brif arweinydd am oes ar Gerddorfa Ffilharmonig Berlin fel olynydd i Wilhelm Furtwängler.[7] Roedd yn gyfarwyddwr artistig Opera Talaith Fienna. Roedd Karajan yn cael ei gysylltu yn agos ag ymddangosiadau Cerddorfa Ffilharmonig Fienna yng Ngŵyl Salzburg, lle cychwynnodd Ŵyl y Pasg.

Karajan a'r cryno ddisg

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Karajan ran bwysig yn natblygiad y fformat crynoddisg wreiddiol (tua 1980). Cefnogodd y dechnoleg recordio newydd hon ac ymddangosodd yn y gynhadledd i'r wasg gyntaf a gyhoeddodd y fformat. Ef a recordiodd y CD fasnachol gyntaf a'r gwaith a gafodd yr anrhydedd o gael ei recordio ar yr achlysur oedd y Symffoni Alpaidd gan Richard Strauss.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Yn ei flynyddoedd olaf, dioddefodd Karajan o broblemau'r galon a'r cefn. Ymddiswyddodd fel Prif Arweinydd cerddorfa Ffilharmonig Berlin ar 24 Ebrill 1989. Ei gyngerdd olaf oedd 7fed Symffoni Bruckner gyda Cherddorfa Ffilharmonig Fienna. Bu farw o drawiad ar y galon yn ei gartref yn Anif ar 16 Gorffennaf 1989 yn 81 mlwydd oed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Lebrecht, Norman (2007). The Life and Death of Classical Music: Featuring the 100 Best and 20 Worst Recordings Ever Made. Knopf Doubleday. t. 137. ISBN 9780307487469.
  2. 2.0 2.1 "Herbert von Karajan – His Life". www.karajan.org. Cyrchwyd 2019-09-27.[dolen farw]
  3. 3.0 3.1 3.2 Osborne, Richard, 1943- (2000). Herbert von Karajan : a life in music. Boston: Northeastern University Press. ISBN 1555534252. OCLC 42892262.
  4. "Herbert von Karajan | Biography & History". AllMusic. Cyrchwyd 2019-09-29.
  5. "Karajan, Herbert von | Grove Music". www.oxfordmusiconline.com. doi:10.1093/gmo/9781561592630.001.0001/omo-9781561592630-e-0000014696. Cyrchwyd 2019-09-29.
  6. Zignani, Alessandro (2008). Herbert von Karajan : il musico perpetuo (arg. 1af). Varese: Zecchini. ISBN 8887203679. OCLC 225996487.
  7. Philharmoniker, Berliner. "The era of Herbert von Karajan | Berliner Philharmoniker". www.berliner-philharmoniker.de. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-02. Cyrchwyd 2019-09-29.