Neidio i'r cynnwys

Krav Maga

Oddi ar Wicipedia
Krav Maga
Mathcombat sport, self-defence, crefft ymladd Edit this on Wikidata
CrëwrImi Lichtenfeld Edit this on Wikidata
GwladTsiecoslofacia, Israel Edit this on Wikidata
Enw brodorolקרב מגע Edit this on Wikidata
GwladwriaethIsrael Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwers Krav Maga mewn ysgol awyrfilwyr yn Israel, 1955.

System eclectig o hunan-amddiffyn anghystadleuol sy'n tarddu o Israel yw Krav Maga (Hebraeg: קרב מגע, "brwydro cyffyrddiad") sy'n cynnwys technegau taro, gafael, ac ymgodymu. Mae'n canolbwyntio ar sefyllfaoedd realistig a defnyddio gwrth-ymosodiadau grymus ac effeithlon. Datblygodd y grefft ymladd hon o sgiliau ymladd y stryd Imi Lichtenfeld, paffiwr ac ymgodymwr a amddiffynnodd ardal Iddewig Bratislava rhag grwpiau ffasgaidd yn y 1930au. Yn y 1940au diweddar, wedi iddo ymfudo i Israel, dechreuodd rhoi gwersi ymladd i Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) ac yn hwyrach datblygwyd system Krav Maga. Addaswyd y system ar gyfer lluoedd milwrol, yr heddlu, a sifiliaid.

Mae gan Krav Maga athroniaeth sy'n pwysleisio niwtraleiddio bygythiadau, symudiadau amddiffynnol ac ymosodol ar y cyd, ac ymosodedd. Defnyddir Krav Maga gan luoedd rheolaidd ac arbennig yr IDF, Mossad, Shin Bet, CIA, FBI, Marsialiaid yr Unol Daleithiau, Awyrlu'r Unol Daleithiau, DEA, Marsialiaid yr Awyr, nifer o heddluoedd a thimoedd SWAT, GIGN, Byddin Gwlad Belg, ac eraill. Mae nifer o sefydliadau ar draws y byd yn addysgu Krav Maga neu fersiynau amrywiol ohono i unigolion.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]