Edward Wingfield Humphreys
Edward Wingfield Humphreys | |
---|---|
Ganwyd | 1841 Sir Drefaldwyn |
Bu farw | 27 Ebrill 1892 o canser Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru Seland Newydd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ffermwr |
Swydd | Aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Seland Newydd |
Roedd Edward Wingfield Humphreys (Rhagfyr 1841 - 27 Ebrill 1892) yn aelod o Senedd Seland Newydd yn cynrychioli etholaeth Christchurch North o 1889 i 1890. Roedd hefyd yn ffermwr yn Otago, ac roedd ei deulu estynedig yn cynnwys nifer o ffigurau gwleidyddol.
Bywyd Cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Humphreys yn 1841 [1] yng Ngarthmyl, Aberriw, Sir Drefaldwyn.[2] Roedd yn ail fab i Erskine Humphrey, bargyfreithiwr yn Lincoln's Inn ac Eliza (née Johnes) ei wraig. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Harrow, Llundain.[3]
Ymfudodd i Seland Newydd gan ymgartrefu yn ardal Strath Taieri lle fu'n ffermio. Prynodd sawl darn o dir (Six Mile, Garthmyl a Gladbrook ), a oedd yn rhan o rediadau 213 a 213A.[4]
Priododd Alice Hawdon, ail ferch yr Anrh. Joseph Hawdon MLC ar 22 Ebrill 1869 yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yn Christchurch. Ni fu iddynt blant [2][5] Felly daeth yn frawd yng nghyfraith i Robert Campbell, a oedd wedi priodi Emma Josephine, merch hynaf Hawdon, ar 2 Rhagfyr 1868 yn Christchurch.[6] Roedd Humphreys hefyd yn gefnder cyfan i Frederic Jones, a gynrychiolodd etholaeth Heathcote o 1887 i 1890.
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ar ôl gosod ei eiddo ar rent, ymddeolodd Humphreys i Christchurch ym 1888.[2] Er ei fod yn sgwatiwr (hy, yn ddeiliad tir bugeiliol sylweddol) [4], roedd ganddo gredoau 'rhyddfrydol penderfynol', ac roedd un o'i ffrindiau gorau yn arfer ei brofocio trwy ei alw'n 'radical milain'.[3]
Achosodd ymddiswyddiad Syr Julius Vogel isetholiad ar 19 Mehefin 1889 yn etholaeth Christchurch North, a ymladdwyd gan dri ymgeisydd. Derbyniodd Humphreys, John Ollivier ac Eden George 403, 378 a 184 o bleidleisiau, yn y drefn honno. Roedd gan Ollivier brofiad gwleidyddol blaenorol, bu'n cynrychioli Christchurch Country yn 2il Senedd Seland Newydd. Cyn hynny, bu'n gwasanaethu fel ail gadeirydd Cyngor Tref Christchurch, ac yn Faer Christchurch ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd Humphreys, a oedd yn gymharol newydd i Christchurch, yn curo person mor adnabyddus gyda phrofiad gwleidyddol mawr, yn brawf o ba mor uchel ei barch yr oedd wedi dod o fewn cyfnod byr.[2]
Ad-drefnwyd etholaeth Christchurch ar gyfer etholiad cyffredinol 5 Rhagfyr 1890. Diddymwyd Christchurch North, a sefydlwyd City of Christchurch fel etholaeth tri aelod. Penderfynodd Humphreys sefyll yn er etholaeth hon. Derbyniodd y chwe ymgeisydd y pleidleisiau canlynol: William Pember Reeves (2774 -etholwyd), Westby Perceval (2721 - etholwyd), Richard Molesworth Taylor (2613 - etholwyd), J. Tippett Smith (1811), Humphreys (1668) ac Eden George (119).[7][8]
Aelod o Gyngor Dinas Christchurch
[golygu | golygu cod]Etholwyd Charles Gray yn Faer Christchurch ychydig ddyddiau cyn yr etholiad cyffredinol, a daeth ei sedd yn ward Gogledd Orllewin Cyngor Dinas Christchurch yn wag.[9] Datganodd Humphreys ei ymgeisyddiaeth ar gyfer ward cyngor y ddinas ar 10 Rhagfyr.[10] Er i Humphreys ac W I Ballinger gael eu henwebu ar 15 Rhagfyr ar gyfer etholiad ar 30 Rhagfyr,[11] tynnodd Ballinger yn ôl a chymerodd Humphreys ei sedd yng nghyfarfod y cyngor ar 23 Rhagfyr 1890.[12] Cadwodd ei sedd ar y cyngor y ddinas nes iddo adael am wledydd Prydain ym mis Medi 1891.[1][13]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Dychwelodd Humphreys i Brydain gan fod ganddo ganser, a chafodd y cyngor fod gwybodaeth feddygol arbenigol well ar gael yn ei hen wlad. Trefnwyd parti gadael iddo gan y Cambrian Society ar 1 Medi 1891, oedd â phresenoldeb mawr.[2] Bu farw Humphreys o ganser yn Llundain ym mis Ebrill 1892.[14]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Paper's Past OTAGO WITNESS, cyfrol 1993, 5 Mai 1892 adalwyd 2 Gorffennaf 2019
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Papers Past STAR, Rhif 7270, 30 Ebrill 1892 adalwyd 7 Mehefin 2019
- ↑ 3.0 3.1 OTAGO WITNESS, Rhif 1994, 12 Mai 1892 adalwyd 7 Mehefin 2019
- ↑ 4.0 4.1 "The Squatters' Club" (PDF). August 2008. t. 8. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-03-05. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Married". The Press. XIV (1878). 22 Ebrill1869. t. 2. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=, |date=
(help) - ↑ "Frederic Jones, M.H.R." The Star (6954). 8 Medi 1890. t. 3. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "General Elections". The Star (7029). 6 Rhagfyr 1890. t. 4. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Christchurch North Election". The Star (6577). 20 June 1889. t. 3. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "THE MAYORAL ELECTIONS". The Star (7021). 27 Tachwedd 1890. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Page 3 Advertisements Column 1". The Star (7032). 10 Rhagfyr 1890. t. 3. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Latest Locals". The Star (7036). 15 Rhagfyr 1890. t. 3. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "CITY COUNCIL". The Star (7045). 23 Rhagfyr 1890. t. 4. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Mr. Edward Wingfield Humphreys". The Cyclopedia of New Zealand : Canterbury Provincial District. Christchurch: The Cyclopedia Company Limited. 1903. Cyrchwyd 07 Gorffennaf 2019. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Family Notices - The Montgomeryshire Express and Radnor Times". William Pugh Phillips & Gilbert Norton Phillips. 1892-05-03. Cyrchwyd 2019-07-02.