Gweision neidr tindrom
Gweision neidr tindrom Gomphidae | |
---|---|
Austrogomphus guerini | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Uwchdeulu: | Aeshnoidea |
Teulu: | Gomphidae |
Teulu o bryfaid a elwir yn aml yn Weision neidr tindrom yw'r Gomphidae. Mae'r teulu hwn o Weision neidr o fewn Urdd yr Odonata ac yn cynnwys tua 90 genera (gweler isod) a 900 rhywogaeth. Mae'r enw 'tindrom' (tin / pen ôl) yn cyfeirio at gylchrannau 7-9 o'r abdomen, sydd yn aml, ond nid pob amser, wedi'i chwyddo fel pastwn.
Mae'r gair Lladin (a gwyddonol) Gomphidae yn dod tarddu o'r gair 'gomffws', sef colyn (Saesneg: hinge).
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Un o'u nodweddion pennaf yw eu llygaid - sydd wedi'u gosod ymhell o'i gilydd ar eu pennau; ond gofal! - mae hyn hefyd yn nodwedd o rai o'r mursennod a'r Petaluridae. Gwyrdd, glas neu wyrddlas yw lliw'r llygad. Digon llwydaidd ydy thoracs y rhan fwyaf o'r rhywogaethau ac mae ganddynt resi tywyll arno, rhesi sy'n gymorth i adnabod y gwahanol fathau. Prin yw lliwiau llachar a metalig y grŵp hwn o weision neidr, digon gwelw o'u cymharu gydag eraill; y rheswm a mhyn yw er mwyn i'w lliw gydweddu gyda'u hamgylchedd gwelw.
Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng y fenyw a'r gwryw ac maen nhw'n mesur 40 – 70 mm (1.6 - 2.8 mod).
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Gomphidae - rhannau
-
Paru
-
Gomphus vulgatissimus gan ddangos yr abdomen sy'n nodweddiadol o'r tulu
-
Pen Gomphus vulgatissimus
-
Paragomphus lineatus, gwryw
-
Paragomphus lineatus, benyw
Genera
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Commonwealth Scientific and Industrial Research Organisation (CSIRO) Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback
- More information about clubtail dragonflies
- Gomphidae, CLUBTAILS Archifwyd 2009-09-05 yn y Peiriant Wayback, Discover Life