Neidio i'r cynnwys

Berwbwynt

Oddi ar Wicipedia
Berwbwynt
Enghraifft o'r canlynolthermal property Edit this on Wikidata
Mathtymheredd Edit this on Wikidata

Y radd o dymheredd ble mae elfen, hylif fel arfer, yn berwi yw berwbwynt. Yng ngeiriau'r gwyddonydd: y tymheredd y mae gwasgedd anwedd yn hafal i wasgedd yr amgylchedd sydd o amgylch yr hylif.[1][2]

Mae gan pob hylif sydd wedi'i amgylch gan wactod ferwbwynt is na pha fo dan wasgedd atmosfferig. Y cryfaf yw'r gwasgedd ar yr hylif, yr uchaf ydy'r berwbwynt, hynny yw mae'r berwbwynt yn newid pan fo'r gwasgedd sydd arno yn newid.

Berwbwynt dŵr

[golygu | golygu cod]

Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd canradd. Dim gobaith am baned rhesymol o de yno, felly. Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn Hafan Eryri, caffi newydd yr Wyddfa, bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol - tuag un atmosffer ar gyfer pob 10 metr. Mi fyddai paned wedi’i baratoi (a’i yfed) ar waelod pwll nofio Bangor yn mesur dros 110 gradd braf ! Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd.[3] Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed - 464 gradd canradd. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd - nid oes “swigod”. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf i’w gweld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mwynau a metelau - megis aur a haearn - o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 3,000 Solved Problems in Chemistry gan David.E. Goldberg; cyhoeddwyd gan McGraw-Hill yn 1988; ISBN 0-07-023684-4; rhan 17.43, tud 321
  2. Pollution Prevention: The Waste Management Approach to the 21st Century gan Louis Theodore, R. Ryan Dupont and Kumar Ganesan (Golygyddion); cynhoeddwyd gan CRC Press, 1999; ISBN 1-56670-495-2; rhan 27, tud 15
  3. Koschinsky A. et al. Geology (DOI: 10.1130/G24726A.1)