Bodffordd
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 960, 991 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 2,529.425 ±0.001 ha |
Yn ffinio gyda | Llanddyfnan, Bodedern, Trewalchmai, Cymuned Llangefni, Bryngwran, Llannerch-y-medd, Tref Alaw |
Cyfesurynnau | 53.261944°N 4.362778°W |
Cod SYG | W04000005 |
Cod OS | SH424765 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref bychan a chymuned yn Ynys Môn yw Bodffordd[1][2] ( ynganiad ) (neu Botffordd). Fe'i lleolir yng nghanol yr ynys ar y lôn gefn B5109 tua dwy filltir a hanner i'r gorllewin o Langefni, ar ben deheuol Llyn Cefni. Tri chwarter milltir i'r de mae Heneglwys ac mae Bodffordd ei hun yn rhan o'r plwyf eglwysig honno.
Fymryn i'r gorllewin o'r pentref ceir Maes Awyr Môn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ystyr yr enw Bodffordd yw 'Anedd ar y ffordd', sef yr hen ffordd fawr ar draws Môn, o Borthaethwy i Gaergybi. Roedd Bodffordd yn perthyn i Esgob Bangor gynt; gelwid y "dref" fechan yn Bodffordd Ddeiniol (ar ôl Deiniol Sant, sefydlydd Eglwys Gadeiriol Bangor yn ôl y traddodiad) neu Bodffordd Esgob.[3] Roedd yn rhan o gwmwd Malltraeth, cantref Aberffraw.
Eisteddfod
[golygu | golygu cod]Cafodd Bodffordd ei ddewis fel lleoliad Eisteddfod Môn 2007.
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Rhagfyr 2021
- ↑ Melville Richards, 'Enwau Lleoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972), tud. 156.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele