Afon Aare
Gwedd
Math | afon, isafon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bern, Solothurn, Aargau, Y Swistir |
Gwlad | Y Swistir |
Uwch y môr | 478 metr, 2,310 metr |
Cyfesurynnau | 47.6056°N 8.2233°E |
Tarddiad | Aar Glaciers |
Aber | Afon Rhein |
Llednentydd | Lütschine, Kander, Glütschbach (Aare), Gürbe, Saane/Sarine, Thielle, Dünnern, Zulg, Emme, Önz, Murg, Q1593800, Wigger, Suhre, Reuss, Limmat, Surb, Chise River, Worble River, Ösch, Aabach (Seetal), Alte Aare, Gadmerwasser, Q2264507, Q2284715, Q2326591, Sulgenbach, Q2389904, Stadtbach, Rotache, Gäbelbach, Alpbach, Suze |
Dalgylch | 17,800 cilometr sgwâr |
Hyd | 295 cilometr |
Arllwysiad | 560 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Brienz, Llyn Thun, Llyn Biel, Llyn Wohlen, Niederriedsee, Klingnauer Stausee, Räterichsbodensee |
Afon yn y Swistir sy'n llifo i mewn i afon Rhein yw afon Aare (Almaeneg: Aare, Ffrangeg: Aar). Hi yw'r afon hwyaf sy'n gyfangwbl o fewn y Swistir.
Mae'r Aare yn tarddu yn rhewlif Unteraar yn yr Alpau Bernaidd. Llifa tua'r dwyrain yna tua'r gogledd-orllewin, gan ffurfio rhaeadr yr Handegg, 46 medr o uchderm cyn cyrraedd Meiringen. Ger Brienz, mae'n llifo i Lyn Brienz, yna'n llifo rhwng Interlaken ac Unterseen i gyrraedd Llyn Thun. Wedi gadael y llyn, mae'n llifo trwy ddinas Thun ac yna trwy ddinas Bern. Maen llifo i Lyn Biel yna ar hyd Camlas Nidau i Büren. Llifa heibio Solothurn i ymuno ag afon Rhein ger Koblenz, y Swistir.