Tîm pêl-droed cenedlaethol Bolifia
Llysenw(au) | El Verde ('Y Gwyrddion')[1] | ||
---|---|---|---|
Conffederasiwn | CONMEBOL (De America) | ||
Hyfforddwr | Mauricio Soria | ||
Capten | Ronald Raldes | ||
Is-gapten | Vacant | ||
Mwyaf o Gapiau |
Luis Cristaldo (93) Marco Sandy (93)[2] | ||
Prif sgoriwr | Joaquín Botero (20)[2] | ||
Cod FIFA | BOL | ||
Safle FIFA | 92 8 (12 Chwefror 2015) | ||
Safle FIFA uchaf | 18 (Gorff. 1997[3]) | ||
Safle FIFA isaf | 115 (Hydr. 2011[3]) | ||
Safle Elo | 55 | ||
Safle Elo uchaf | 22 (Meh. 1997[4]) | ||
Safle Elo isaf | 86 (Gorff. 1989[4]) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Chile 7–1 Bolivia (Santiago, Chile; Hydref 12, 1926) | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Bolivia 7–0 Feneswela (La Paz, Bolifia; Awst 22, 1993) Bolivia 9–2 Haiti (La Paz, Bolifia; Mawrth 3, 2000) | |||
Colled fwyaf | |||
Wrwgwái 9–0 Bolifia (Lima, Periw; Tachwedd 6, 1927) Brasil 10–1 Bolifia (São Paulo, Brazil; Ebrill 10, 1949) | |||
Cwpan FIFA y Byd | |||
Ymddangosiadau | 3 (Cyntaf yn 1930) | ||
Canlyniad gorau | Grŵp, Cwpan y Byd FIFA, 1930, 1950 a 1994 | ||
Copa América | |||
Ymddangosiadau | 24 (Cyntaf yn Pencampwriaeth De America, 1926) | ||
Canlyniad gorau | Pencampwyr, 1963 | ||
Confederations Cup | |||
Ymddangosiadau | 1 (Cyntaf yn 1999) | ||
Canlyniad gorau | Grŵp, 1999 | ||
Gwefan | fbf.com.bo/web/ |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Bolifia (Sbaeneg: Selección de fútbol de Bolivia) wedi cynrychioli Bolifia yn y byd pêl-droed ers 1926 ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Bêl-droed Bolifia (Sbaeneg: Federación Boliviana de Fútbol) (FBF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FBF yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed De America, CONMEBOL (Sbaeneg: Confederación Sudamericana de Fútbol, Portiwgaleg: Confederação Sul-Americana de Futebol).
Mae El Verde ('y gwyrddion'), wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar dair achlysur ac wedi ennill Copa América unwaith pan gynhaliwyd y gystadleuaeth ar eu tomen eu hunain ym 1963.
Eu cartref yw Stadiwm Hernando Siles, sydd 3,637 metr (11,932 tr) uwchlaw lefel y môr, ac felly'n un o stadiymau uchaf yn y byd. Gellir cymharu hyn gyda'r Wyddfa, sydd yn ddim ond 1,085 m (3,560 tr) uwchlaw lefel y môr.