Pwllmeurig
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6286°N 2.6967°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
Pentref bychan yng nghymuned Matharn, Sir Fynwy, Cymru, yw Pwllmeurig[1] (Seisnigiad: Pwllmeyric).[2] Fe'i lleolir 1 filltir i'r de-orllewin o Gas-gwent, ar y briffordd A48
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'n rhan o blwyf eglwysig Matharn. Enwir y pentref ar ôl "pwll", sef bae neu fraich ar y rhan yma o Afon Hafren a oedd yn gorwedd rhwng y pentref a'r môr. Ymddengys fod 'Meurig' yn cyfeirio at Feurig ap Tewdrig, brenin Gwent (bl. 6g).
Yn ôl yr hanes a geir yn Llyfr Llandaf, roedd Meurig wedi cymryd drosodd fel brenin Gwent pan ymddeolodd ei dad Tewdrig i fynd yn feudwy yng nghlas Tyndyrn. Dywedir i'w dad ddod allan o'i ymddeoliad i'w gynorthwyo yn erbyn y Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn Gwent ac i'r ddau orchfygu'r goresgynwyr ym Mrwydr Pont y Saeson. Clwyfwyd Tewdrig yn angeuol a bu farw ar ôl y frwydr. Claddodd Meurig ei dad ym Matharn, a rhoddodd y tir amgylchynnol (yn cynnwys ardal Pwllmeurig), yn rhodd i Esgobion Llandaf.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 19 Hydref 2021
- ↑ [Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979)
Trefi
Brynbuga · Cas-gwent · Cil-y-coed · Y Fenni · Trefynwy
Pentrefi
Aber-ffrwd · Abergwenffrwd · Betws Newydd · Bryngwyn · Caer-went · Castellnewydd · Cemais Comawndwr · Cilgwrrwg · Clydach · Coed Morgan · Coed-y-mynach · Cwmcarfan · Cwm-iou · Drenewydd Gelli-farch · Y Dyfawden · Yr Eglwys Newydd ar y Cefn · Gaer-lwyd · Gilwern · Glasgoed · Goetre · Gofilon · Y Grysmwnt · Gwehelog · Gwernesni · Gwndy · Hengastell · Little Mill · Llanarfan · Llan-arth · Llanbadog · Llancaeo · Llandegfedd · Llandeilo Bertholau · Llandeilo Gresynni · Llandenni · Llandidiwg · Llandogo · Llanddewi Nant Hodni · Llanddewi Rhydderch · Llanddewi Ysgyryd · Llanddingad · Llanddinol · Llanelen · Llanelli · Llanfable · Llanfaenor · Llanfair Cilgedin · Llanfair Is Coed · Llanfihangel Crucornau · Llanfihangel Gobion · Llanfihangel Tor-y-mynydd · Llanfihangel Troddi · Llanfihangel Ystum Llywern · Llanfocha · Llan-ffwyst · Llangatwg Feibion Afel · Llangatwg Lingoed · Llangiwa · Llangofen · Llan-gwm · Llangybi · Llanhenwg · Llanisien · Llanllywel · Llanofer · Llanoronwy · Llan-soe · Llantrisant · Llanwarw · Llanwenarth · Llanwynell · Llanwytherin · Y Maerdy · Magwyr · Mamheilad · Matharn · Mounton · Nant-y-deri · Newbridge-on-Usk · Y Pandy · Pen-allt · Penrhos · Pen-y-clawdd · Porth Sgiwed · Pwllmeurig · Rogiet · Rhaglan · Sudbrook · Tre'r-gaer · Tryleg · Tyndyrn · Ynysgynwraidd