Neidio i'r cynnwys

aros

Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.

Cymraeg

Cynaniad

  • yn y Gogledd: /ˈarɔs/
  • yn y De: /ˈaːrɔs/, /ˈarɔs/

Geirdarddiad

Cymraeg Canol arhos o’r Gelteg *φarewostom, berfenw *φare-wos-o- (Cym. C. arhoaf ‘dw i’n aros, arhosa i’, a.y.y.b.) o’r un gwreiddyn Indo-Ewropeg *h₂u̯es- ‘aros, aros dros nos’ ag a welir yn gwas, gwest. Cymharer â’r Gernyweg gortos, y Llydaweg gortoz a’r Gwyddeleg Canol foaid ‘gorffwys’.

Berfenw

aros berf gyflawn ac anghyflawn (bôn y ferf: arhos-)

  1. Disgwyl am
    Roeddwn yn aros amdanat tu allan i'r sinema.
  2. Stopio; peidio â symud
    Roedd y car wedi aros tu allan i'r Swyddfa Bost.

Cyfystyron

Termau cysylltiedig

Cyfieithiadau