Sackville Trevor
Sackville Trevor | |
---|---|
Ganwyd | 1567 |
Bu farw | 1633 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr 1625 |
Tad | Sion Trefor |
Mam | Mary Bruges |
Priod | Eleanora Savage |
Morwr Cymreig oedd Syr Sackville Trevor (c.1565-1633) ac yn frawd y gwleidydd Syr John Trevor (1563–1630). Nodir ei enw ar feddrod Sion Trevor fel Sackvil Trevor. Roedd yn frawd iau i Syr John Trefor I ac yn aelod o deulu dylanwadol y Treforiaid o Faelor, gogledd-ddwyrain Cymru.
Gweinydd yn y Llynges, a gwleidydd oedd ei dad, John Trefor, a noddwyd gan deulu'r Sackville; fel cydnabyddiaeth o'u haelioni y rhoddwyd iddo'r enw hwnnw. Derbyniodd yntau gyfran yn nawdd Howard o Effingham a thrwy ddylanwad hwnnw cafodd fod yn gapten llong ar ôl llong yn ymgyrchoedd 1596-1603, a llwyddodd i gipio pedair o longau Sbaenaidd yn llawn o nwyddau gwerthfawr. Urddwyd ef yn farchog gan Iago I yn Chatham yn 1604 (4 Gorffennaf), ac yn 1623 cafodd ei anfon gan y brenin ar y llynges a oedd yn gwarchod y llong yr aeth y tywysog Siarl arni i Sbaen; llwyddodd i achub Siarl rhag boddi yn y porthladd.
Priododd â gweddw Syr Henry Bagnall, cadlywydd Iwerddon; lladdwyd Bagnall yn Blackwater yn 1598. Bu Syr Sackville yn byw gyda'i wraig ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, ystad a ddaeth i'r Bagnaliaid trwy briodas â theulu Griffith (y Penrhyn), ac etholwyd ef dros yr ynys yn Senedd gyntaf Siarl I. Roedd yn un o'r rhai a aeth â phetisiwn y Piwritaniaid i'r brenin ar 8 Gorffennaf 1625. Y flwyddyn ddilynol rhoddwyd i'w ofal llong 30 tunnell - i fod yn barod i wasnaethu yn y rhyfel yn erbyn Sbaen yr oeddid yn ei ailgychwyn.[1]
Ym mis Mehefin 1627 yr oedd yn un o'r ychydig a enillodd glod yn y cyrch a wnaethpwyd i geisio rhyddhau yr Huguenotiaid yn La Rochelle, ac ym mis Medi ef a arweiniai y llongau rhyfel a osododd rwystr ar enau afon Elbe er mwyn cynorthwyo y milwyr a anfonwyd o dan Syr Charles Morgan i helpu brenin Denmarc. Hyd y flwyddyn 1634 ymgynghorid ag ef yn fynych ar gwestiynau megis cael dynion i'r llynges ac adeiladu llongau. Roedd yn perthyn i James Howell ac yn un o'i ohebwyr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Sion Trefor (m. 1589)
- Richard Trefor (1558 - 1638), nai iddo, ac etifedd Ystad a Neuadd Trefalun
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]