Dwygyfylchi (plwyf)
Math | plwyf |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.278°N 3.9°W |
Crefydd/Enwad | Anglicaniaeth |
Esgobaeth | Esgobaeth Bangor |
- Erthygl am blwyf Dwygyfylchi yw hon. Am y pentref o'r un enw gweler Dwygyfylchi (pentref).
Plwyf hynafol ar arfordir gogledd Cymru yw Dwygyfylchi. Mae'n rhan o ddeaconiaeth Arllechwedd. Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Arllechwedd Uchaf. Heddiw mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol Conwy, rhwng Conwy i'r dwyrain a Llanfairfechan i'r gorllewin.
Mae union ystyr yr enw 'Dwygyfylchi' yn ansicr. Mae'n deillio efallai o'r hen air dwy ('dwyfol' neu 'sanctaidd', hefyd 'duw' neu 'dduwies') a cyfylchi, gair Cymraeg Canol anghyffredin iawn sy'n golygu 'caer' neu 'amddiffynfa' efallai.
Cynhwysir yn y plwyf tref Penmaenmawr a phentref Dwygyfylchi, sy'n gorwedd ar lecyn eang o dir rhwng mynydd Penmaen-mawr a'r Penmaen-bach. Rhed ffin y plwyf, a nodir yma ac acw gan hen feini, mewn hanner cylch o'r Penmaen-bach i'r Penmaen-mawr, gan redeg trwy ardal Bwlch Sychnant, cyffwrdd wedyn ag Afon Gyrrach a'i dilyn, ar ôl troi i'r gorllewin ym Maen Esgob, sy'n dynodi man cwrdd ffiniau plwyfi Dwygyfylchi, Gyffin a Henryd, ac yna i fyny i gopa Tal y Fan (2001'), y mwyaf dwyreiniol o gopaon y Carneddau. O Fwlch y Defaid ar y mynydd hwnnw mae'n troi i'r gogledd dros y rhosdir eang, gan ffinio â phlwyf Llanfairfechan, ac ymlaen i'r Penmaen-mawr uwch y môr.
Eglwys Gwynin Sant ym mhentref Dwygyfylchi yw eglwys y plwyf. Nid yw'r eglwys bresennol yn hen iawn ond bu eglwys yma yn yr Oesoedd Canol a oedd ym meddiant Abaty Aberconwy. Cafodd yr hen eglwys ei ailadeiladu o'r newydd bron yn 1760, a dim ond darn o ffenestr o'r 16g sy'n aros ohoni; ailadeiladwyd rhan helaeth yr adeilad hwnnw yn ei dro yn y 19g. Mae Syr John Wynn o Wydir yn cyfeirio ati ac yn dweud bod Gwynan a'i frawd Boda, meibion Helig ap Glannog, wedi eu claddu yno.[1]
Mae'r hynafiaethu niferus a geir ar ucheldir y plwyf, i'r gogledd o Dal y Fan, yn cynnwys y Meini Hirion, un o gylchoedd cerrig gorau Cymru. Roedd rhwydaith o lwybrau cynhanesyddol yn croesi'r ardal. Yng Nghwm Graiglwyd ar lethrau'r Penmaen-mawr roedd yna ffatri bwyeill carreg ac ar ben y mynydd safai bryngaer Braich-y-Dinas.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ H. Hughes a H. L. North, The Old Churches of Snowdonia (Bangor, 1924; arg. newydd, Capel Curig, 1984).