Clofan ac allglofan
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Clofan)
Yn naearyddiaeth wleidyddol, tiriogaeth sydd â'i ffiniau daearyddol yn gyfan gwbl o fewn ffiniau tiriogaeth arall yw clofan. Ar y llaw arall, allglofan yw tiriogaeth sydd yn gyfreithiol gysylltiedig â thiriogaeth arall nad yw'n gyfagos at y diriogaeth honno.
Clofannau
[golygu | golygu cod]Gwladwriaethau
[golygu | golygu cod]- Dinas y Fatican, clofan i'r Eidal
- San Marino, clofan i'r Eidal
- Lesotho, clofan i Dde Affrica
Allglofannau
[golygu | golygu cod]- Talaith Cabinda, allglofan i Angola sy'n ffinio â Gweriniaeth y Congo, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Chefnfor yr Iwerydd
- Ceuta a Melilla, allglofannau i Sbaen sy'n ffinio â Moroco a Môr y Canoldir
- Oblast Kaliningrad, allglofan i Ffederasiwn Rwsia sy'n ffinio â Lithwania, Gwlad Pwyl a Môr y Baltig
- Nakhchivan, allglofan i Aserbaijan sy'n ffinio ag Armenia, Iran a Thwrci
Clofannau ac allglofannau
[golygu | golygu cod]- Büsingen am Hochrhein, tref Almaenig a leolir y tu mewn i ganton Schaffhausen, y Swistir
- Campione d'Italia, cymuned Eidalaidd a leolir y tu mewn i ganton Ticino, y Swistir
Enghreifftiau hanesyddol
[golygu | golygu cod]- Dinas Gaerog Kowloon, clofan y tu mewn i Kowloon, Hong Cong
- Gorllewin Berlin, allglofan i Orllewin yr Almaen oedd yn glofan i Ddwyrain yr Almaen
- Llysfaen, hyd 1923 bu'r pentref hwn yn allglofan i Sir Gaernarfon ac yn glofan i Sir Ddinbych yng Nghymru
- Walvis Bay, allglofan i Dde Affrica oedd yn ffinio â Namibia a Chefnfor yr Iwerydd