Édouard Manet
Arlunydd o Ffrancwr oedd Édouard Manet (23 Ionawr 1832 - 30 Ebrill 1883), sy'n adnabyddus fel un o'r enwocaf o'r Argraffiadwyr (Ffraneg: Impressionnistes). Bu'n un o'r arlunwyr cyntaf y 19g i beintio bywyd y cyfnod ac yn ffigwr allweddol yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth (Impressionnisme).[1]
Édouard Manet | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1832 former 10th arrondissement of Paris |
Bu farw | 30 Ebrill 1883 8fed Bwrdeisdref Paris, Paris |
Man preswyl | 8fed Bwrdeisdref Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd, lithograffydd, drafftsmon, drafftsmon, artist, arlunydd |
Adnabyddus am | The Fif, Street Singer, Lola de Valence, Luncheon on the Grass, Olympia |
Arddull | portread, peintio genre, bywyd llonydd, celf tirlun, paentiadau crefyddol |
Prif ddylanwad | Thomas Couture |
Mudiad | Argraffiadaeth |
Tad | Auguste Manet |
Mam | Eugénie-Désirée Fournier |
Priod | Suzanne Manet |
Plant | Léon Leenhoff |
Perthnasau | Berthe Morisot, Julie Manet |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
- Mae "'Manet'" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Manet a Monet, arlunydd arall o'r un cyfnod.
Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.
Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.
Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.
Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth (Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.
Oriel Édouard Manet
golygu-
Picnic ar y Gwair, 1863
-
Bar yn y Folies-Bergère, 1882
-
Olympia, 1863
-
Y Canwr Sbaeneg, 1860
Amgueddfa Gelf Metropolitan -
Bachgen yn dal cleddyf, 1861
-
Y Hen Gerddor,1862
Oriel Gelf Genedlaethol -
Mlle. Victorine mewn gwisg Matador, 1862
Amgueddfa Gelf Metropolitan -
Crist Farw gydag Angylion
1864 -
Brwydr Kearsarge a'r Alabama, 1864
Amgueddfa Gelf Philadelphia -
Matador Farw, 1864–1865
Oriel Gelf Genedlaethol -
Yr Athronydd, (y cardotyn gyda llymeirch), 1864–1867
Sefydliad Celf Chicago, -
Codwr Clytiau, 1865–1870
Amgueddfa Norton Simon -
Y Darllen, 1865–1873
-
Ffliwtydd Ifanc, 1866 Musée d'Orsay
-
Bywyd Llonydd gyda Melon a Eirin Gwlanog, 1866
Oriel Gelf Genedlaethol -
Yr Actor Trasig (Rouvière fel Hamlet), 1866
Oriel Gelf Genedlaethol -
Merch gyda Pharot
Amgueddfa Gelf Metropolitan, 1866 -
Portread Madame Brunet
Amgeuddfa J. Paul Getty Museum, 1867 -
Dienyddio Brenin Maximilian, 1868
-
Portread Émile Zola, 1868
Musée d'Orsay -
Brecwast yn y Stiwdio (y siaced du), 1868
Neue Pinakothek -
Y Balconi, 1868–1869
Musée d'Orsay -
Hwylio, 1874
Amgueddfa Gelf Metropolitan -
Camlas Fawr Fenis (Fenis Glas)
Amgueddfa Shelburne Museum, 1875 -
Madame Manet, 1874–1876
Amgueddfa Norton Simon, -
Portread Stéphane Mallarmé, 1876
Musée d'Orsay -
Nana, 1877
-
Rue Mosnier gyda baneri, 1878
Amgeuddfa J. Paul Getty Museum -
Yr Eirinen, 1878
Oriel Gelf Genedlaethol -
Chez le père Lathuille, 1879
Musée des Beaux-Arts Tournai -
Asbaragws, 1880
Wallraf-Richartz Museum, Cologne, Germany -
Y Biwglwr, 1882
Amgeuddfa Gelf Dallas -
Tŷ yn Rueil, 1882
Amgeuddfa Victoria, Melbourne, -
Lôn yr Ardd, Rueil, 1882
Musée des Beaux-Arts de Dijon -
Blodau mewn Fâs Gwydr, 1882
Oriel Gelf Genedlaethol -
Bywyd Llonydd, Tusw Lilac, 1883
-
Carnasiwn a Clematis mewn Fâs Gwydr, 1883
Musée d'Orsay,