Traeth Coch

bae ar Ynys Môn, Cymru
(Ailgyfeiriad o Y Traeth Coch)

Mae Traeth Coch ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn draeth tywodlyd, llydan ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn. Mae'n gorwedd rhwng Trwyn Dwlban ger pentref Benllech i'r gorllewin a Llaniestyn i'r dwyrain. Caiff ei adnabod fel Red Wharf Bay yn Saesneg. Enwir Traeth Coch ar ôl brwydr yn 1170 rhwng y Cymru a'r Llychlynwyr a adawodd y traeth yn orlawn mewn gwaed.

Traeth Coch
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2965°N 4.2071°W Edit this on Wikidata
Map

Llifa afon Nodwydd i'r traeth, sy'n ffurfio bae agored tua dwy filltir a hanner o led, ger pentref Pentraeth; mae enw'r pentref hwnnw yn awgrymu fod y traeth yn ymestyn ymhellach i'r tir yn yr oesoedd a fu.

Mae pentref Traeth Coch ar lan orllewinol y bae. Cysylltir y pentref â Benllech a Phentraeth trwy Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Mae gan Draeth Coch dri bwyty - The Tavern on the Bay, The Ship Inn, a The Boathouse - i gyd â golygfeydd o'r bae.

Bu Traeth Coch yn ddrwg-enwog am ei smyglwyr yn y gorffennol. Fe'i cysylltir hefyd â Gwrachod Llanddona; dywedir yr ymsefydlodd y gwrachod a'u gwŷr yn yr ardal ar ôl i'w llong gael ei dryllio ar y Traeth Coch.

Mae'r môr yn Nhraeth coch yn addas i nofio ynddo gan fod y dŵr digon bas.

Ar un adeg roedd rheilffordd ar hyd ymyl orllewinol y traeth yn cysylltu Benllech a Pentre Berw, a phrif linell rheilffordd y Gogledd.

Traeth Coch: Afon Nodwydd

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato