Lynne Neagle
gwleidydd Cymreig ac Aelod o'r Cynulliad
Gwleidydd Cymreig ac aelod o'r Blaid Lafur yw Lynne Neagle (ganwyd 18 Ionawr 1968). Mae'n Aelod o'r Senedd dros Etholaeth Torfaen ers ei ethol gyntaf ar ddyfodiad y Cynulliad ym 1999. Mae'n briod i Huw Lewis, AS dros etholaeth Merthyr Tudful a Rhymni ac mae'r ddau'n byw ym Mhenarth. Ers mis Mawrth 2024, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yw hi.
Lynne Neagle AS | |
---|---|
Llun swyddogol, 2024 | |
Aelod o Senedd Cymru dros Dorfaen | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 1999 | |
Rhagflaenwyd gan | Swydd newydd |
Mwyafrif | 4,498 (19.8%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Merthyr Tudful | 18 Ionawr 1968
Plaid wleidyddol | Llafur Cyd-weithredol |
Priod | Huw Lewis AS |
Plant | 2 |
Alma mater | Prifysgol Reading |
Swydd | Ymgynghorydd gwleidyddol |
Fe'i maged ym Merthyr Tudful a derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa. Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Reading. Am gyfnod bu'n gynorthwyydd ymchwil i'r Aelod Seneddol Ewropeaidd, Glenys Kinnock.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod o'r Senedd dros Dorfaen 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |