Ffilm arswyd
Nod ffilm arswyd yw ceisio codi ofn ac arswyd ar y gwylwyr. Mae eu lliynnau stori yn aml yn gwirdroi o amgylch marwolaeth, y goruwchnaturiol neu salwch meddyliol. Gan amlaf, mae gan ffilmiau arswyd un dihiryn canolog i'r ffilm. Seiliwyd nifer o'r ffilmiau arswyd cynharaf ar lenyddiaeth glasurol o'r genre gothig/arswyd megis Dracula, Frankenstein, The Wolf Man, Phantom of the Opera a Dr. Jekyll and Mr. Hyde. Mae ffilmiau mwy diweddar fodd bynnag yn dwyn eu hysbrydoliaeth o ansicrwydd bywyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan greu tair is-genre unigryw ond cysylltiedig: arswyd-personoliaeth y ffilm Psycho, arswyd armagedon Invasion of the Bodysnatchers ac arswyd ellyllon y ffilm The Exorcist. Gellir ystyried yr is-genre olaf fel moderneiddiad o'r ffilmiau arswyd cynharaf, am eu bod yn ehangu ar y syniad o'r ofn y gall pŵerau goruwchnaturiol ddod i'r byd.
Mae'r holl brif stiwdios ffilmiau a nifer o gyfarwyddwyr uchel eu parch, gan gynnwys Alfred Hitchcock, Roman Polanski, Stanley Kubrick, William Friedkin, Richard Donner, Francis Ford Coppola, a George Romero i gyd wedi cynhyrchu ffilmiau yn y genre hwn. Mae rhai ffilmiau arswyd yn cynnwys elfennau o genres eraill megis gwyddonias, ffantasi, rhaglenni dogfen ffug, comedi tywyll a ffilmiau cyffro.
Mae nifer o ffilmiau Cymraeg yn y genre megis Gwaed Ar Y Sêr.