Brawddeg
Uned ieithyddol mewn iaith naturiol yw brawddeg, mynegiad sy'n cyfleu gosodiad, gofyniad neu orchymyn.[1]
Math | semantic unit, utterance, linguistic form |
---|---|
Y gwrthwyneb | Q9380011 |
Yn y rhan fwyaf o ieithoedd,[2] mae'n rhaid i frawddeg gynnwys berf gyfyngedig, ond nid yw hyn yn wir yn y Gymraeg. E.e. Hir pob aros.
Rhannau'r frawddeg
golyguMewn cymal, ceir goddrych a thraethiad; gall fod yn brif gymal neu'n isgymal. Mae'n brawddegau syml yn cynnwys dim ond un cymal (a hwnnw'n brif gymal), ond mewn brawddegau eraill ceir sawl cymal. Mae'r frawddeg gyfansawdd yn cynnwys o leiaf dau brif gymal cydradd, tra mae'r frawddeg gymhleth yn cyfuno prif gymal ag isgymal(au).
Mathau o frawddeg
golygu- Brawddeg enwol
- Brawddeg ferfol
- Brawddeg seml - un prif cymal
- Brawddeg gyfansawdd - o leiaf dau brif gymal cydradd wedi'u cysylltu gan gysylltair
- Brawddeg gymhleth - un prif cymal ac un neu ragor o isgymalau
- Darn brawddeg