Benelux
Grŵp o dair wlad yng ngorllewin Ewrop sy'n cynnwys Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg yw'r Benelux. Mae'r enw yn gyfuniad dechrau enw pob gwlad (Belge - Nederlands - Luxembourg). Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol er mwyn sefydlu "Undeb Economaidd Benelux".
Enghraifft o'r canlynol | political economic union, sefydliad rhanbarthol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 5 Medi 1944 |
Yn cynnwys | Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg |
Sylfaenydd | Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg |
Pencadlys | Dinas Brwsel |
Enw brodorol | Benelux |
Gwefan | https://benelux.int |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd yr Undeb Economaidd Benelux (Iseldireg Benelux Economische Unie, Ffrangeg Union Économique Benelux) ym 1944 er mwyn lleihau rhwystrau yn cyfyngu symudiad rhydd gweithwyr, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau rhwng y tair gwlad. Cryfhawyd y cysylltiadau ar 3 Chwefror 1958, pryd llofnodwyd cytundeb yn Den Haag yn sefydlu undeb economaidd. Roedd sefydlu'r undeb yn gyfraniad pwysig tuag at greu y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (wedyn yr Undeb Ewropeaidd), er i'r UE ddatblygu o'r Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (ECSC).
Yn ogystal â Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal roedd chwaraeodd y tair gwlad rôl bwysig wrth sefydlu'r ECSC, yr EEC a'r UE.
Cysylltiadau allanol
golygu- (Saesneg) / (Ffrangeg) / (Iseldireg) Secretariat Cyffredinol y Benelux