Aneirin Talfan Davies

bardd, beirniad llenyddol, darlledwr a chyhoeddwr

Bardd, darlledwr, a beirniad llenyddol oedd Aneirin Talfan Davies (Aneurin ap Talfan; 11 Mai 190914 Gorffennaf 1980).

Aneirin Talfan Davies
FfugenwAneirin ap Talfan Edit this on Wikidata
Ganwyd11 Mai 1909 Edit this on Wikidata
Felindre Edit this on Wikidata
Bu farw14 Gorffennaf 1980 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantGeraint Talfan Davies Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Cafodd ei eni yn Nhrefach Felindre, Sir Gaerfyrddin, lle roedd ei dad yn weinidog, ac yna mynychodd Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr wedi i'r teulu symud i Dre-gŵyr. Yn ystod y tridegau aeth i weithio i Lundain fel fferyllydd cyn dychwelyd ac ymsefydlu yn Abertawe. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd dechreuodd weithio i'r BBC yn Abertawe, ac yn ddiweddarach daeth yn Rheolwr y BBC yng Nghymru, ac fe gynhyrchodd rhai o weithiau cynnar Dylan Thomas. Yn dilyn marwolaeth Dylan ysgrifennodd astudiaeth o'i waith fel bardd crefyddol. Cyfieithodd farddoniaeth Christina Rossetti i'r Gymraeg, a golygu llythyron David Jones a fu'n ddylanwad pwysig ar Aneirin Talfan.[1]

Roedd yn frawd i'r Barnwr Alun Talfan Davies. Gyda'i frawd sefydlodd y wasg a'r tŷ cyhoeddi Llyfrau'r Dryw yn Llandybie, a ddaeth yn ddiweddarach yn Christopher Davies. Sefydlodd hefyd y cylchgrawn Heddiw a gyda'i frawd y cylchgrawn Barn.

Ei fab yw Geraint Talfan Davies sydd wedi dal sawl swydd o bwys yng Nghymru

Llyfryddiaeth

golygu
  • Y Ddau Lais (1937). Cerddi.
  • Yr Alltud (1944). Astudiaeth o waith James Joyce.
  • Y Tir Diffaith (1946). Astudiaeth o waith T. S. Eliot.
  • Eliot, Pwshcin, Poe (1948). Astudiaeth.
  • Gwŷr Llên (1948). Beirniadaeth lenyddol.
  • (golygydd) Blodeugerdd o Englynion (1950)
  • (golygydd) Munudau gyda'r beirdd (1954)
  • Crwydro Sir Gâr, Cyfres Crwydro Cymru (1955)
  • Sylwadau (1957)
  • Pregethau a Phregethu'r Eglwys (1957)
  • (golygydd) Englynion a Chywyddau (1958)
  • Dylan: Druid of the Broken Body (1964)
  • Yr Etifeddiaeth Dda (1967)
  • Gyda Gwawr y Bore (1970)
  • Crwydro Bro Morgannwg, 2 gyfrol, Cyfres Crwydro Cymru (1972, 1976)
  • Diannerch Erchwyn a Cherddi Eraill (1976). Cerddi.
  • David Jones: Letters to a Friend (1979). Astudiaeth.

Astudiaethau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Davies, John (Ed) (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. tt. 196 & 1975. ISBN 978-0-7083-1953-6.CS1 maint: extra text: authors list (link)