Anabledd yw cyflwr lle mae un o gyneddfau person yn sylweddol llai effethiol na'r cyffredin i unigolyn yn eu dosbarth. Gall gyfeirio at anabledd corfforol, er enghraifft anallu i gerdded, dallineb, byddardod ac eraill, neu anabledd meddyliol.

Anabledd
Symbolau anabledd
Mathnodwedd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysanabledd corfforol, anabledd meddwl, anabledd deallusol, disability affecting intellectual abilities, anabledd datblygiad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gall unigolion gael eu geni gydag anabledd neu gallant gael anabledd ar unrhyw gyfnod o'u bywyd o ganlyniad i ddamwain, clefyd neu ddirywiad y corff.[1]

Ar 13 Rhagfyr 2006, cytunodd y Cenhedloedd Unedig ar Gytundeb Hawliau Pobl Anabl, cytundeb hawliau dynol cyntaf yr 21ain ganrif. Credir fod tua 650 miliwn o bobl anabl trwy'r byd. Bydd disgwyl i wledydd sy'n arwyddo'r cytundeb ofalu bod eu cyfreithiau yn sicrhau fod gan bobl anabl yr un mynediad at addysg, cyflogaeth a bywyd diwylliannol, yr hawl i berchenogi ac etifeddu eiddo a thriniaeth gydradd o ran priodas a phant.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Iechyd a GofalCymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 2017. Check date values in: |accessdate= (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato