A470
Ffordd yng Nghymru yw'r A470. Mae'n mynd yr holl ffordd o Gaerdydd yn y De i Landudno yn y Gogledd.
Enghraifft o'r canlynol | ffordd dosbarth A |
---|---|
Yn cynnwys | Rhodfa Lloyd George |
Rhanbarth | Cymru |
Hyd | 186 milltir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymysg y lleoedd y mae'n mynd trwyddynt mae Maendy, Tongwynlais, Castell Coch, Ffynnon Taf, Pontypridd, Abercynon, Libanus, Aberhonddu, Llyswen, Erwyd, Llanfair-ym-Muallt, Llanelwedd, Cwmbach Llechryd, Pontnewydd-ar-Wy, Rhaeadr Gwy, Llangurig, Llanidloes, Llandinam, Caersŵs, Pontdolgoch, Clatter, Carno, Talerddig, Dolfach, Llanbrynmair, Commins Coch, Glantwymyn, Cwm Llinau, Mallwyd, Dinas Mawddwy, Dolgellau, Llanelltyd, Ganllwyd, Bronaber, Trawsfynydd, Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, dros Fwlch y Gorddinan rhwng Blaenau a Dolwyddelan, Betws y Coed, Llanrwst, Tal y Cafn a Glan Conwy.
Mae'n ffordd hynod o droelliog, ond yn aml yr unig ffordd o deithio o un pen o Gymru i'r llall yw hi.
Fe enwyd rhaglen deledu ar S4C ar ei hôl yn ogystal â chylchgrawn llenyddol.
Gweler hefyd
golygu- Nid yr A470 – teithlyfr tafod yn y boch gan Ian Parri